Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r gloch y prydnawn Sabbath cyntaf ar ol cyraedd Llanerchy medd," medd Mr. Beynon, "pregethais yn Peniel; ac am chwech yn yr hwyr o flaen y diweddar Barch. John Elias, yn yr awyr agored, gerllaw tŷ y diweddar Mr. D. Roberts, Currier, yn y Llan. Yr ydwyf yn cofio un peth yn neillduol a ddygwyddodd ar y pryd. Wedi imi esgyn i'r man yr oeddym i sefyll arno i lefaru, darllenais bennod, a phan yn rhoddi yr emyn hwnw allan i'w ganu,—

"Ddiffygiai ddim er cy'd fy nhaith,
Tra paro gras y Nef." &c.,

Gwelwn ar fy nghyfer un o'r merched mwyaf ei maintioli a welswn erioed, yn ymwthio trwy y dorf; ac a'i breichiau mawrion cilgwthiai y bobl ar dde ac ar aswy, hyd oni ddaeth o fewn ychydig i'r man y safwn arno. Brawychwyd fi yn ddirfawr, gan ei dull penderfynol yn ymwthio mor ddi-ildio drwy y dyrfa, oblegid ofnais ei bod wedi dyfod i godi terfysg yn yr addoliad, neu efallai i fy nymchwelyd oddiar fy safle. Ond dygwyddodd yn groes i fy ofnau, oblegid bu yr hen fam deimladwy, yn gymhorth mawr trwy ei hysbryd bywiog i'r bachgenyn egwan a dieithr, i anerch y gynulleidfa. Deallais wedi hyny, mai un Catherine Jones ydoedd, neu yn ol yr enw yr adnabyddid hi yn fwyaf cyffredin, "Cadi Rondol;" yr oedd yn un o deulu y gorfoledd oedd mor gyffredin yn y wlad yr adeg hono." Arhosodd Mr. B. yn y gymmydogaeth am oddeutu mis ar ol y Gymanfa, pryd y dychwelodd i Ferthyr, ac ni bu yno yn hir cyn derbyn galwad unfrydol oddiwrth eglwys Peniel i'w bugeilio yn yr Arglwydd. Nifer yr aelodau ar y pryd (1813) oedd 25. Cynaliwyd cyfarfod urddiad Mr. B. yn fuan ar ol y Sulgwyn 1814. Dewiswyd y Parch. Jonathan Powell, Rhosymeirch, i draddodi y siars i'r eglwys. Yn mhlith pethau eraill, cynghorodd Mr. Powell aelodau yr eglwys i ofalu am gynhaliaeth gysurus i'w gweinidog; a chan droi yn sydyn at y gweinidog ieuangc, dywedodd, "ïe frawd ieuanc, beth bynag fydd ar ol i chwi, chwi gewch ddigon o waith i'ch tafod, ond ni wn i beth am eich dannedd."

Yr oedd yr Ysgol Sabbathol yn Peniel yn bur lewyrchus yr adeg hon. Dangoswyd llawer o ffyddlondeb a sêl o'i phlaid gan amryw yn y gymmydogaeth; megis Mr. Hughes, Tymawr a'i deulu; W. Williams, Sarnfadog; W. Jones, Gwehydd, Coedana; E. Williams, Tyhen; Lewis Jones, Crydd; Owen Jones, a'i chwaer; teuluoedd ieuainc David a William Aubrey, Richard Owen, Cefn-roger a'i deulu William Jones, Bettws, &c., Yn y flwyddyn 1814, cynyddodd rhif-