edi y gwrandawyr i raddau mawr, a chyn hir aeth y capel yn llawer rhy fychan i'w cynwys. Yna codwyd oriel (gallery) ar yr ochr ddwyreiniol i'r capel, ac er y cynwysai hon rai ugeiniau yn ychwanegol, yr oedd y capel yn cael ei lenwi bob Sabbath. Yn mhen tua thair blynedd symudodd Mr. Beynon i Landdeusant. Ar ei ol ef, bu y Parch. Owen Jones yma am dymor byr. Wedi hyny, cydsyniodd y Parch. W. C. Williams, (Caledfryn) â dymuniad taer y cyfeillion i aros yn eu plith i'w gwasanaethu yn yr Arglwydd. Yma yr ordeiniwyd ef. Bu Mr. Williams yn ymdrechgar a llwyddianus iawn. Gwnaeth lawer o ddaioni yn ystod tymor ei weinidogaeth. Bu yn foddion i dderchafu chwaeth y trigolion, i ddiwyllio eu meddyliau, a phlanu ynddynt egwyddorion teilwng. Canfyddir ei ol ef yma hyd y dydd hwn. Wedi treulio rhai blyneddau mewn llafur egniol, symunodd Mr. Williams i Gaernarfon. Ei olynydd ef oedd y Parch. Evan Davies, (Eta Delta.) Yn ystod gweinidogaeth Mr. Davies, yr adeiladwyd capel y Llan, yr hwn a alwyd ar ei enw "Capel Evan." Adeiladwyd yr addoldy yn y flwyddyn 1838, y draul yn £400. Bu Mr. Davies yn hynod o ymdrechgar i gasglu ato, ond yr oedd yn aros hyd yn ddiweddar £100 o ddyled rhwng y Llan a Peniel; talwyd y cyfan trwy ffyddlondeb ac ymdrch yr Ysgol Sabbathol yn y Ar ol ymadawiad Mr. Davies, daeth y Parch. John Roberts, y gweinidog presenol yma, yr hwn sydd wedi bod yn llafurio yn llwyddianus yn y rhan hon o'r winllan am 18 mlynedd. Yn ddiweddar, o herwydd fod yr eglwys a'r gynulleidfa yn parhau i gynyddu, bu yn angenrheidiol ail-adeiladu capel y Llan, a'i helaethu ryw gymaint. Yr oedd y draul uwch law '£500. Y mae yn addoldy hardd, helaeth, a chyfleus, ac yn feddiant i'r enwad, yn nghyd a'r tir a berthyn iddo, tra bo Mon uwch law y weilgi. Trwy roddion cartrefol, a chyfraniadau y cyfeillion crefyddol yn y sir, nid ydyw y ddyled yn bresenol ond tua £300. Y mae golwg lewyrchus a chynyddol ar yr achos yn y lle hwn; rhifedi yr eglwys ydyw 200, y gynulleidfa 300, yr Ysgol Sabbathol yn y Llan 110, yn Peniel yr un adeg 60. Y pregethwyr a godwyd yma ar wahanol amserau ydynt, y Parch. R. Parry (Gwalchmai), Llandudno; y Parch. R. Roberts, yn bresenol yn y Deheudir; Mr. W. Hughes, Dwyrain. Mon; a Mr. W. Williams, yr hwn a fu farw ar ei ddychweliad o'r athrofa,