Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CARMEL,

AMLWCH.

DECHREUWYD yr achos sanctaidd yn mhlith yr Annibynwyr yn y lle hwn tua'r flwyddyn 1785. Dywed y gweinidog presenol, y Parch. W. Jones, fel y canlyn, Nid yw yn hawdd gwybod pwy a fu yn pregethu gyntaf yma, ond wrth ymofyn flynyddau yn ol â rhai o blant yr aelodau cyntaf, cefais fod y diweddar Barch. Benjamin Jones, yr hwn oedd y pryd hyny yn gweinidogaethu yn Rhosymeirch a'r Capel mawr, yn arfer dyfod yma y blynyddau cyntaf, yn nghydag un William Jones, yr hwn oedd yn cyd lafurio ag ef y pryd hwnw Arferai rhai o'r aelodau cyntaf yn Amlwch, fyned i Rhosymeirch am beth amser i gymundeb, fel y gwnai aelodau eglwysig o wahanol fanau yn y cyfnod hwnw, gan ystyried eglwys Ebenezer fel eu mam-eglwys. Nis gellir gwybod yn sicr yn mha flwyddyn y corfforwyd yr eglwys gynulleidfaol yma, na faint oedd nifer yr aelodau ar y pryd. Dengys cofrestr y bedyddiadau fod y gweinidog cyntaf wedi ei sefydlu yma yn Mawrth, 1789. Ei enw oedd Evan Jones, daeth yma o'r Deheudir. Dywedir iddo ddyfod ar hyd y môr, a thirio yn Amlwch gyda'r bwriad o fyned yn mlaen i ymsefydlu yn Beaumaris; ond enillwyd ef gan yr ychydig gyfeillion yn y lle hwn i aros yn eu plith. Parhaodd i lafurio yn eu mysg gyda graddau dymunol o lwyddiant hyd y flwyddyn 1792, pan y tueddwyd ef i fyned i'r America, lle y mae yn gorphwys oddi wrth ei lafur er's llawer o flynyddau. Os gellir barnu am Mr. Jones, oddi wrth y gofrestr fanol a rheolaidd o fedyddiadau a adawodd ar ol, ymddengys ei fod yn ofalus yn ei swydd fel gwas i Iesu Grist a'i eglwys. Yn nhymor ei weinidogaeth ef y prynwyd lease ty anedd yn Mhorth Amlwch, yr hwn a wnaed yn lle cyfleus i addoli ynddo. Yn flaenorol i hyn, yr oedd y gynulleidfa wedi bod yn addoli mewn lle gerllaw y man y saif addoldy y Methodistiaid Calfinaidd yn nhref Amlwch, ond yr ochr arall i'r ffordd. Oherwydd fod y gynulleidfa yn lluosogi, bu yn angenrheidiol helaethu y capel ddwy waith yn lled fuan.

Yn y flwyddyn 1794, mewn cydsyniad â dymuniad yr eglwys, daeth y Parch. John Evans, i weinidogaethu yma. Yr oedd gwrandawyr Mr. Evans yn dra lluosog am lawer o flynyddau, yn gymaint felly, fel y gorfyddid ef i fyned i'r areithfa, yn fynych ar nos Sabbath, drwy ffenestr o'r tu cefn i'r lle. Ac felly y parhaodd hyd nes yr adeiladwyd addoldy harddach, a mwy cyfleus na'r eiddo ef yn y gymyd-