Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhifedi yr eglwys ydyw 262, yr Ysgol Sabbathol tua 200, y gynulleidfa yn agos i 500.

SION,

BEAUMARIS.

CORFFOLWYD yr eglwys Gynulleidfaol yn y dref hon, yn nechreu y flwyddyn 1785. Gwnaed ymdrechiadau egniol i ddwyn pregethu i'r dref, ar wahanol amserau, yn flaenorol i'r cyfnod hwn, er mai nid llawer o lwyddiant a ddilynodd. Yr oedd yn berygl bywyd, fel y gellir barnu, i Ymneillduwr gynyg cyhoeddi "gair y bywyd" yn y De hwn gan mlynedd yn ol. Dyoddefodd y pregethwyr a ddeuent yma, rhwng y blyneddau 1750 a 1760, y triniaethau mwyaf ffiaidd a chreulawn, fel y mae yn syndod cu bod wedi gallu dianc heb eu lladd.

Mor ddiweddar a'r flwyddyn 1775, anturiodd un Owen Thomas Rolant i ddyfod yma i bregethu. Dywed ef ei hun am yr amgylchiad fel y canlyn:—"Aethum yno mewn llawer o ddigalondid, gyda 12eg neu ragor o'm cyfeillion; yr oedd yno yn ein disgwyl dyrfa fawr iawn o bobl, a minau yn disgwyl y byddai fy ymenydd ar y pared cyn pen y chwarter awr; cymaint oedd fy ofn wrth ddechreu fel na allwn ymaflyd yn y Bibl gan fel yr oedd fy nwylaw yn crynu; wrth i mi weddio, yr oedd yno y fath swn gan y murmur a'r terfysg oedd yn mhlith y bobl, fel nad oedd yn bosibl i neb glywed ond ychydig; ond wrth ddiweddu y weddi, mi ddywedais y pader; pan glywodd y bobl hyn, rhedodd rhai o ddrysau y tai, ac ochrau y cloddiau, a chan dynu eu hetiau, nesasant at y dorf; ar hyn, gwaeddodd Mr. John Parry, bragwr, ar y bobl ar fod i bawb wrandaw yn ddystaw, ac na wnai neb er ei berygl ddim aflonyddwch, ac na thaflai neb gymaint a phlisgyn ŵy, o herwydd, ebe efe, yr wyf fi wedi rhoddi cenad i'r gŵr sefyll ar fy nhir, ac mi edrychaf am chwareu teg iddo." Ac felly y bu, ni chafodd y pregethwr ei affonyddu y tro hwn. Ond tueddir ni i feddwl mai nid dylanwad Mr. Parry oedd yr unig achos pa ham na aflonyddwyd ar y pregethwr, ond yr oedd ei waith ef yn adrodd y pader ar ddiwedd ei weddi fel olew tywalltedig ar feddyliau cynhyrfus a choelgrefyddol y terfysgwyr. Yr oedd yma yn y cyfnod hwnw, fel ag mewn manau eraill, ddynion a gymerent arnynt wybod mwy na'r cyffredin, yn dysgu y werin i daenu cyhuddiadau anwireddus am