Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Evans) a'i mham, y rhai fuont yn bleidwyr selog i'r achos yn ei fabandod; yn nghyda llaweroedd eraill diweddarach o ran proffes. Credwn eu bod yn derbyn eu gwobr. Collodd yr eglwys wasanaeth dau o'i diaconia.d trwy angau, yn ystod tymor gweinidogaeth Mr. Thomas. Un oedd y brawd ffyddlon a chywir Mr. Richard Williams, yr hwn a fu farw yn orfoleddus, yn 29 mlwydd oed. Y llall oedd Mr. John Tyrer, yr hwn a ddangosai fod yr achos yn agos at ei feddwl, trwy ei ddiwydrwydd crefyddol, a'i ddiysgogrwydd o'i blaid, yn ngwyneb pob amgylchiad a'i cyfarfyddai. Y pregethwyr a godwyd yma ydynt, Mr. W. Williams, yr hwn sydd hefyd yn enill iddo ei hun "radd dda" fel diacon yn yr eglwys; Mr. T. Williams, a Mr. Zechariah Mathers,

BETHANIA,

LLANDDEUSANT,

YMDDENGYS mai Mr. William Pritchard, o Glwch-dernog, a gychwynodd yr achos crefyddol yn yr ardal hon. Dywed y Parch. R. E. Williams (diweddar weinidog Llanddeusant), yn yr "hanes" a gyhoeddodd o'r eglwys uchod, mai y lle a neillduwyd ganddo yma oedd y Clwch-hir, tŷ bychan ar dir Clwch-dernog. Efallai y byddai yn ddyddorol gan y darllenydd gael gwybod am y modd yr arweiniwyd y gwr da uchod i'r ardal hon.

Llwyddodd yr erlidwyr yn eu hamcan i'w symud o Blâs Penmynydd, ac aeth ef a'i deulu mewn canlyniad i fyw am beth amser i Fodlewfawr, yn mhlwyf Llanddaniel. Aflonyddwyd arno drachefn yn y lle hwnw, a phenderfynodd ymadael unwaith yn rhagor. Ymddangosai llwybr Rhagluniaeth yn lled dywyll o'i flaen ar y pryd, a thra yr oedd yn petruso mewn perthynas i'r dyfodol, hysbyswyd iddo fod gan William Bulkeley, Ysw., o'r Bryndu, le yn rhydd. Aeth at y boneddwr i ddweyd ei gwyn. Gofynodd yntau beth oedd yr achos ei fod yn cael ei droi o'i dyddyn, a oedd efe yn methu a thalu am dano. "Nac oeddwn," meddai W. Pritchard, "ond yr achos o hyny yw fy mod yn ymneillduwr oddi wrth Eglwys Loegr." "Os nad oes rhywbeth heblaw hyny yn dy erbyn," ebe Mr. Bulkeley, "ti a gai ddigon o dir genyf fi." Ac felly y bu, rhoddodd lense iddo ar Glwch-dernog, a daeth yno i fyw yn y flwyddyn 1750. Nis gellir gwybod pwy oedd y pregethwyr cyntaf a ymwelsant a'r Clwch-hir. Yr oedd enw Mr.