William Pritchard erbyn hyn wedi myned yn dra adnabyddus drwy Ogledd Cymru o leiaf, a gellir meddwl nad oedd yr un pregethwr yn dyfod i Fôn y pryd hwnw, heb dalu ymweliad âg ef. Ymddengys mai ambell i bregeth yn achlysurol a geid yn y Clwch-hir, ac arferai Mr. W. Pritchard fyned i Rhosymeirch drwy bob tywydd i addoli. Yr oedd yn coleddu meddwl parchus am ei fam-eglwys yn Mhwllheli, ac elai yno o Glwch-dernog yn fisol i gymundeb, tra y gallai. Nid rhyw lawer o lwyddiant fu ar grefydd yn Llanddeusant, yn ei oes ef. Ar ol ei farwolaeth, ymwelai amryw o weinidogion yr Annibynwyr â'r lle, a phregethent y pryd hwnw yn y Tynewydd, yn y Llan, lle y saif y siop newydd yn bresenol.
Tua'r flwyddyn 1793, daeth un Zaccheus Davies yma o'r Deheudir i bregethu a chadw ysgol. Dywedir am dano ei fod yn bregethwr cymeradwy, ac ar amserau yn bur daranllyd. Y gwr da hwn a lwyddodd i adeiladu y capel cyntaf yn Llanddeusant, yr hwn a orphenwyd yn y flwyddyn 1795. Bu Mr. Davies yn hynod o ymdrechgar i gasglu at y capel, oblegid dychwelodd adref ar ol bod ar daith i'r perwyl yn y Deheudir, a digon yn ei logell i dalu yr holl ddyled. Ar ol ei ymadawiad, bu yr achos am ryw yspaid yn lled isel. Deuai amryw yma i bregethu y cyfnod hwn. Yn mhlith eraill a ddeuent yn achlysurol, gellir enwi y Parch. Abraham Tibbot, Rhosymeirch; y Parch. John Jones, Ceirchiog; a'r Parch. Owen Thomas, Carrog. Bu yr olaf yn noddwr caredig i'r achos dros amryw flynyddau. Yn Hydref 1816, symudodd y Parch, David Beynon, o Lanerchymedd i Landdeusant, ac agorodd ysgol ddyddiol yn Bethania. Yr oedd yma ysgol ragorol ar y pryd yn cael ei chynal gan y Parch, Mr. Richards, Offeiriad y plwyf, yn y Llan; ond rhoddwyd cymhelliad i Mr. Beynon i godi ysgol yn y "capel bach," o herwydd fod y lle yn nês, ac yn fwy cyfleus i luaws o deuluoedd yn y gymydogaeth hono. Pregethai Mr. B. lawer yn y tai ar hyd y gymydogaeth, ac yr oedd llawer o gyrchu ar ei ol. Tra y bu yn aros yma, cynyddodd y gwrandawiad, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys. Ymwelai a'r ardal hon yn achlysurol am beth amser yn flaenorol i'w sefydliad yma. Dywed et ei hun, mai graddol iawn fu y cynydd yma hyd y flwyddyn 1814, pryd yr aeth y capel yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr yn gysurus. Coffeir ganddo am ddau amgylchiad nodedig a ddygwyddasant yn y cyfnod hwn, pa rai a deilyngant gael eu cofnodi yn hanes yr achos yn y lle. Dywed Mr. Beynon, " Yr oedd hen ŵr o'r enw Robert Rowland