Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn byw mewn tyddyn bychan gerllaw Bethania, sef, Pontysgynydd, Nid oeddwn gwedi ei weled yn y capel ar y Sabbath, a phan glywais am dano, synais beth at hyny, gan fod rhai o bob teulu o'r bron yn y gymydogaeth yn arfer dyfod yno. Un prydnawn Sadwrn, fel ag yr oeddwn trwy wahoddiad teulu caredig Clwchdernog, yn myned tuag yno i letya (yn Llanerchymedd yr oeddwn yn aros y pryd hwnw), ac yn myned heibio i dŷ yr hen ŵr, gwelwn ef yn eistedd ar gamfa, o flaen drws ei dŷ. Cyferchais ef, ac yntau finau. Dywedais wrtho nad oeddwn wedi cael yr hyfrydwch o'i weled ef yn y capel bach, fod bron bawb o'i gymydogion yn dyfod yno bob Sabbath, ac y carwn yn fawr ei weled ef a'i briod yn dyfod ambell dro. Atebodd, "Ni fum i yn gwrando ar 'sentar erioed, ond unwaith yn y Clwch, pan oedd rhyw bengrwn yno yn pregethu mewn cynhebrwn, a phe buaswn yn gwybod am dano cyn myn'd, ni elsai troed i mi yno byth-i'r Llan y bydda'i yn myn'd bob Sul." Dywedais wrtho, y gallai fyned i'r Llan yn ddigon prydlawn, wedi i'n cwrdd ni ddarfod, ac anogais ef yn daer i ddyfod. "I ba beth," meddai, "'d oes acw ddim lle i eistedd, ac nis gallaf sefyll; byddaf yn gweled oddi yma lawer yn sefyll allan oddeutu y drysau a'r ffenestri." Wel, deuwch chwi acw, meddwn inau, a chwi a gewch le yn seat y pwlpud, mewn man cyfleus a chysurus iawn, "Aië yn wir," ebe yr hen wr, "ai meddwl fy ngwneyd yn wawd yr ydych-fy ngosod yn y pwlpud aië? Wel, yr wyf yn awr dros 92 oed, ac ni fum i yn nghapel y 'sentars erioed, a beth feddyliai y bobl am danaf pe y gwelent hwy yr hen Robert o Bontysgynydd yn dyfod i'r capel bach hwy gredant fy mod wedi myn'd o nghô yn siwr, ac nid heb achos ychwaith." Wrth ymadael, anogais ef i ddyfod boreu dranoeth i'r addoliad. Boreu Sabbath a ddaeth, a chychwynais gyda rhai o'r teulu tua 'r capel, ac er fy syndod, gwelwn yr hen ŵr yn eistedd yn yr un man ag y gwelais ef y dydd o'r blaen, ond wedi ymdrwsio yn fwy trefnus nag oedd y pryd hwnw. Dywedai y sawl oedd gyda mi, ei fod yn arfer gwneyd hyny bob Sabbath i fyned i'r Llan. Aethum i fynu ato, ac wedi ei gyfarch, gofynais am ei gwmni gyda ni i Bethania, ond methais a llwyddo. Ond pan yn canu y waith gyntaf yn nechreu yr addoliad, gwelwn y bobl agosaf at y drws yn edrych allan mewn syndod, a chyn diweddu y gân, edrychais tua 'r drws, a gwelwn yr hen frawd o Bontysgynydd yn dyfod i mewn gan bwyso ar ei ddwy-ffon; aethum yn frysiog i'w gyfarfod, ac arweiniais ef i seat