y pwlpud yn ol fy addewid iddo y dydd o'r blaen. Ni welwyd eisiau R. R. o Bontysgynydd yn y capel un Sabbath wedi hyny tra y bu efe byw, ac yn alluog i ddyfod yno. Yn lled fuan, daeth yr hen bererin a'i briod oedranus i'r gyfeillach grefyddol, a derbyniwyd y ddau yn aelodau eglwysig."Yn mhen rhyw yspaid ar ol hyn, symudodd Robert Rowland a'i deulu o Bontysgynydd, ac aethant i fyw i Gaerdeon, gerllaw Clwch-dernog. Arferai Mr. Beynon bregethu yn achlysurol yn y tai oddi amgylch, a gwahoddwyd ef gan yr hen frawd i ddyfod i bregethu ryw noswaith yn ei drigfa newydd ef Rhydd Mr. B. yr hanes canlynol am yr odfa hono a'i heffeithiau. "Aethum yno," meddai, "yn ol fy addewid, a chawsom odfa dda dros ben, yr Arglwydd yn rhoddi o lewyrch ei wyneb, a'r gwlith nefol yn disgyn yn rhwydd gyda'r dweyd anmherffaith, ond gonest. Eto, nid oeddwn wedi cael lle i feddwl y noson hono, fod dim wedi cael ei effeithio yn argyhoeddiadol ar neb o'r newydd yno. Ond yn y gyfeillach grefyddol gyntaf ar ol hyny, daeth amryw o'r ieuenctyd yn mlaen o'r newydd, ac yn eu plith John Jones o'r Muriaumawr, gerllaw Glanalaw, yr hwn fu, wedi hyny, mor gyhoeddus, fel y Parch. John Jones, Marton. dystiolaeth yn y gyfeillach oedd, mai y noson hono yn Nghaerdeon y cafodd y fraint o ddyfod i benderfyniad o ddewis crefydd Crist yn rhan dragywyddol iddo. Yr oedd Mr. Jones, yr adeg hono, yn cadw yr ysgol blwyfol yn Eglwys Llantrisant, a thrwy ddylanwad Mr. Beynon, cafodd fyned i ysgol barchus yn Nghaergybi dros ychydig amser, ac wedi hyny derbyniwyd ef i atrofa Llanfyllin. Wedi ymadael o'r athrofa, ymsefydlodd Mr. Jones yn Marton, sir Amwythig, lle y bu hyd derfyn ei oes ddefnyddiol yn gweinidogaethu, ac yn cadw ysgol i barotoi dynion ieuainc i waith pwysig y weinidogaeth.
Ar ol ymadawiad Mr. Beynon, deuai y Parch, Owen Jones, Llanerchymedd y pryd hwnw, yma dros dymor byr, hyd nes y cymerwyd gofal yr eglwys gan y Parch. Owen Thomas, Carrog. Parhaodd Mr. Thomas mewn cysylltiad a'r lle hyd ddiwedd ei oes, yn cael ei gynorthwyo gan ei fab, y Parch Thomas Owen. Yn y flwyddyn 1823, adgyweiriwyd ac helaethwyd ychydig ar yr hen gapel. Yn fuan ar ol marwolaeth Ꭹ Parch. Owen Thomas, daeth y Parch. David Davies, o sir Aberteifi i'r wlad hon, ac ymsefydlodd yn Llanddeusant. Yn mhen ychydig ar ol ei ddyfodiad i'r wlad, y dechreuodd yr adfywiad grymus