Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a ymwelodd a'r rhan fwyaf o eglwysi Cymru tua 22 mlynedd yn ol. Cafodd yr eglwys yn Llanddeusant brawf o'r "addfed ffrwyth cyntaf." Aeth y fechan mewn cymhariaeth yn fil, a'r wael yn genedl gref; ac y mae yr Arglwydd wedi bod yn dirion wrthi o hyny hyd yn awr. Symudodd Mr. Davies oddiyma i Berea, yn y Sir hon; y mae yn awr yn Ceryg-cadarn, sir Frycheiniog. Yn y flwyddyn 1842, daeth y Parch, William Roberts yma o Rosymedre. Yn ei amser ef yr adeiladwyd yr addoldy presenol, sef, yn y flwyddyn 1844. Yr oedd y draul arianol yn £200. Yn nechreu y flwyddyn 1848, sefydlwyd y Parch. R. E. Williams, yn y lle hwn. Bu yn bur lwyddianus yma. Yn ystod ei weinidogaeth ef, y talwyd y gweddill o'r ddyled oedd yn aros ar yr addoldy. Llafuriodd yn egniol yn y rhan hon o'r winllan am yn agos i 12 mlynedd. Mewn perthynas i'r moddion a ddefnyddiwyd i ddileu y ddyled, dywed Mr. Williams fel y canlyn. "Daeth Mr. Thomas, Beaumaris yma am Sabbath. Dywedodd am lafur ysgol Sabbathol yno. Parodd hyny i rai yma feddwl y gallent hwythau wneyd ychydig. Yr oedd rhai yn bygwth, eraill yn ofni, ac eraill yn penderfynu treio; a threio a wnaed, heb un gobaith o wneyd mwy na £5 o bellaf yn y flwyddyn. Erbyn heddyw (1857) y mae yr oll o'r £107, mewn pedair blynedd a chwarter, wedi eu talu, gan ysgol Sabbathol 'dan 120 o average. Os cyfrifir y paentio, a'r adgyweiriad, nid oes lai na £150, beth bynag, wedi eu talu yn y 9 mlynedd ddiweddaf; heb son am y draul i wneyd mynwent hardd a chyfleus at wasanaeth y Gynulleidfa." Yn mhen tua blwyddyn a haner ar ol ymadawiad Mr. Williams, penderfynodd y cyfeillion yn Bethania a Siloh, i roddi galwad i'r Parch. T. T. Williams, eu gweinidog presenol, ordeiniwyd ef ar y 24ain a'r 25ain o Ebrill, 1861. Ychydig amser yn ol, aed i'r draul o wneuthur rhai gwelliantau oddi fewn i'r addoldy. Yr oedd rhai pethau ynddo yn anghyfleus, ac nid atebai yn mhob peth i amgylchiadau y lle, a'r oes. Bu y draul yn £50. Nifer yr eglwys ydyw 92, yr ysgol Sabbathol 120, y gynulleidfa 200. Breintiwyd yr achos hwn a llawer o noddwyr o'i ddechreuad hyd yn bresenol. Megis, William Pritchard, Owen Jones, a William Jones, Clwch-dernog; William Pritchard, a John Pritchard, Hen siop; David Roberts, Meiriogan; David Williams, y Siop; Thomas Jones, Melin Llwyndu; William Thomas, Glanalaw; Thomas Williams, Glanalaw; Robert Roberts, Mynydd Adda; Robert Jones, Tanylan.