Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

EBENEZER,

LLANFECHELL

DECHREUWYD yr achos Annibynol yn y lle hwn, trwy offerynoliaeth un Richard Jones, yr hwn a ddaeth i fyw i'r Maesmawr gerllaw Llanfechell. Yr ydoedd yn aelod crefyddol yn y Capel mawr, ac arferai fyned yno i'r gyfeillach neillduol, ac ar y Sabbathau, (y pellder o 12 milldir) dros amryw flynyddau, ar ol iddo symud i'r ardal hon. Dywedir mai Mr. Harries, Pwllheli, oedd y cyntaf a fu yn pregethu yma, ac ar ei ol ef, daeth amryw yn eu tro i gyhoeddi gair y bywyd yn y gymydogaeth, Yn fuan ar ol ymweliad Mr. Harries, a'r lle, yr ymsefydlodd y Parch. Evan Jones yn Amlwch, a deuai yn fynych i'r Maesmawr i bregethu, a chynal cyfeillachau neillduol. Hefyd, ymymwelai y Parch. Benjamin Jones, Rhosymeirch, a'r lle yn aml. Nid oedd neb eto trwy yr holl ardal yn gwneyd proffes gyhoeddus o grefydd, oddieithr y rhagddywededig Richard Jones a'i deulu. Ni bu ei dymor yntau yn y rhan hon o'r winllan ond byr, bu farw yn y flwyddyn 1787, a mawr oedd y golled a deimlid ar ei ol. Claddwyd ef yn mynwent Rhosymeirch. Yn y cyfamser, daeth Mr. Owen Thomas, i fyw i Garrog. Ganwyd Mr. Thomas yn Ty'nyllan, Heneglwys, daeth at grefydd pan yn ieuanc, ac ymunodd a'r eglwys yn Rhosymeirch, lle yr oedd ei fam dduwiol yn aelod. Cyfarfu a llawer o erledigaethau, ond daliodd ei ffordd yn ddiwyrni yn ngwyneb y cyfan. Pan briododd, aeth i fyw i Gemmaes-goed yn mhlwyf Gwalchmai, ac o'r fan hon arferai fyned i addoli i'r Capel mawr. Yn mhen yspaid symudodd oddi yno i Fodwyn yn mhlwyf Llanrhyddlad, i fyw. Yn yr adeg hon, ymgyfarfyddai i addoli gyda'r ychydig ddisgyblion yn Llanddeusant, a bu ei arosiad yn eu plith yn hynod o fendithiol i'r achos yn y lle. Symudodd dracliefn i Garrog. Dywedir mai y peth blaenaf ar ei feddwl bob amser yn ei holl symudiadau, fyddai cael lle i addoli Duw. Cafodd le felly yn Llanfechell, er nad oedd yma ar y pryd ond un aelod crefyddol, sef, gweddw y rhag-grybwylledig Richard Jones. Cawsant dderbyniad i dŷ o'r enw Broc'nol, lle y bu y ddau yn cynal moddion crefyddol eu hunain dros beth amser. Pa fodd bynag, penderfynwyd adeiladu capel, a chafwyd darn o dir i'r perwyl perthynol i dyddyn y weddw grybwylledig. Yr oedd traul yr adeiladaeth ynghylch £150, a chasglwyd y cyfan yn lled fuan trwy ffyddlondeb Mr. Thomas, Y gweinidogion a bregethai fynychaf yn y capel newydd oeddynt y Parchn. A. Tibbot, Rhosymeirch; J Jones,