weithrediad ffyddlon y gynulleidfa, ac ewyllys da y gymydogaeth, i ddileu y ddyled yn mhen tua thair blynedd. Cynaliwyd cyfarfod Jubilee yn 1859, pryd y gwelwyd fod digon o arian yn ngweddill i ail baentio y capel, yr hyn a wnaed yn ddioed. Mae yr addoldy hwn yn wir deilwng o'r enwad; mae yr eglwys a'r gynulleidfa wedi gweithio yn ganmoladwy iawn. Credwn mai diffyg cynlluniau priodol, a chydweithrediad ffyddlon, yn fwy na thlodi cynulleidfaoedd, ydyw yr achos fod dyled yn aros ar lawer addoldy: mae y ddyled yn aros, am nad oes un ymdrech effeithiol yn cael ei wneyd i'w symud ymaith, "Yn mhob llafur y mae elw;" bu yr ymdrech gyda'r ail-adeiladu, a thalu y ddyled, yn ddechreuad cyfnod newydd ar yr achos yma, bendithiwyd yr eglwys â graddau helaeth o'r adfywiad yn 1859-60, fel y teimlodd llaweroedd eu bod wedi cael eu talu yn dda am eu llafur a'u pryder gyda'r achos, mewn bendithion i'w heneidiau yn y capel newydd. Mae yn dda genym allu cofnodi fod y rhan fwyaf o blant y diwygiad diweddar, yn y lle hwn, yn parhau yn ffyddlon, trwy gymhorth gras, hyd yn bresenol. Rhifedi aelodau yr eglwys ydyw 86, yr ysgol Sabbathol yn 80, y gynulleidfa tua 100.
Y gweinidogion fu yma ar wahanol amserau yn gofalu am yr achos, oeddynt, y diweddar Barch. John Evans, Beaumaris; y Parch. John Griffith, Buckley; y Parch. Thomas Davies, Bodffordd; y Parch. Henry Rees, Penuel, Hope. Dechreuodd y gweinidog presenol, y Parch, David Williams, ar ei weinidogaeth yma, yn Mawrth, 1855. Hefyd, yma yr erys ein brawd Mr. Owen Jones, yr hwn sydd yn bregethwr llafurus, ffyddlon, a chymeradwy gartref ac oddi cartref. Dywed Mr. Williams, "Wrth gymharu yr hyn yw yr achos crefyddol yn ein plith, â'r hyn ydoedd 60 mlynedd yn ol, y mae genym achos i gymeryd cysur a bod yn ddiolchgar; gan barhau mewn gweddiau am lwyddiant ychwanegol arno."
SARDIS,
BODFFORDD
FURFIWYD yr eglwys Gynulleidfaol yn y lle uchod yn y flwyddyn 1810. Cychwynwyd yr achos gan ychydig o aelodau Ebenezer, Rhosymeirch. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1814. Y rhai oedd yn blaenori gyda'r adeiladaeth, oeddynt, Daniel Jones, Rhydyspardyn; Robert Jones, Ceryg-duon; a William Jones, Ty'nyrallt, Y Parch.