Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1832, gwahoddwyd y Parch. Ishmael Jones, o Lansanan, i gymeryd gofal yr eglwys, yr hwn a'i gwasanaethodd yn ffyddlon am yspaid 14 o flyneddau. Ail-adeiladwyd yr addoldy yn amser Mr. Jones, sef, yn y flwyddyn 1843; costiodd yr adeilad oddeutu £140. Symudwyd y ddyled yn llwyr oddi ar yr addoldy cyntaf, ac hefyd mewn rhan oddi ar yr ail, trwy ymdrechiadau cartrefol; nid oes ond £20 yn aros. Mae yr olwg bresenol ar yr achos yn Hermon, a'i ystyried yn ei holl ranau, yn rhagori ar ddim a welwyd er ei gychwyniad. Y gweinidog presenol ydyw y Parch. Thomas Ridge. Dywed Mr. Ridge "fod yr eglwys wedi derbyn yn helaeth o ddylanwadau cysurol a chynyddol yr adfywiad diweddar, fod nifer y dychweledigion ar y pryd yn lluosog, a'u bod, gydag ychydig eithriadau, yn ymddangos yn hynod o obeithiol." Bu yma rai pregethwyr yn cadw ysgol ddyddiol yn yr ardal ar wahanol adegau, ac yn pregethu yn achlysurol; sef, Mr. Titus Jones, y diweddar Barch. Hugh Lloyd, Towyn Meirionydd; a'r Parch, P. G. Thomas, yn awr yn Pennorth, sir Frycheiniog. Rhifedi yr eglwys ydyw 95, yr Ysgol Sabbathol 100, y gynulleidfa 150.

SALEM,

BRYNGWRAN.

DECHREUWYD yr archos hwn yn mhlwyf Ceirchiog, trwy offerynoliaeth un o'r enw John Bulk.[1] Dygwyddodd iddo ddyfod trwy y gymydogaeth pan oedd un Edward Williams yn adeiladu tŷ anedd, ac aeth yn ymddyddan rhyngddynt: dywedodd John Bulk, "y mae yma le cyfleus iawn i bregethu, a wnewch chwi ardrethu y tŷ hwn i

  1. Bu gweinidogaeth John Bulk, neu Vulk, fel ei gelwid gan rai, yn hynod o fendithiol mewn gwahanol barthau o'r ynys hon, tua 60 mlynedd yn o!. Yr oedd John Bulk yn enedigol o sir Benfro, a bu yn cartrefu vn Merthyr am y 60 mlynedd olaf o'i oes; glowr (collier) ydoedd o ran ei alwedigaeth; nid oedd yn ordeiniedig, ond pregethai yn achlysurol gartref, a theithiai gryn lawer i bregethu yr efengyl. Ymunodd a'r Bedyddwyr cyn diwedd ei oes. Dywed ei ferch, yr hon sydd yn awr yn lled oedranus, iddo lafurio yn ynys Mon, ar un adeg, am yspaid pedair blynedd, ac mai dyma yr unig le yn y Gogledd y bu yn aros dim ynddo. Ymddengys ei fod yn bur ymroddgar i waith y weinidogaeth. Arferai weithio yn galed wrth ei alwedigaeth, nes cael digon o arian i brynu ceffyl, ac yna cychwynai ar daith i bregethu am rai misoedd, ac ar ei ddychweliad gartref, gwerthai y ceffyl, ac elai yn ol drachefn at ei alwedigaeth. Dywedir am dano ei fod yn ddvn da, yn meddu synwyr cryf, ac yn bregethwr cymeradwy a defnyddiol iawn. Parhaodd i bregethu hyd derfyn ei fywyd. Bu farw yn 85 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Capel Sion, Merthyr.