Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny?" Atebodd E. Williams, "gwnaf, os caniata fy meistr tir." Cafodd ganiatad i'w ardrethu i'r perwyl am dair blynedd, a buwyd yn pregethu ynddo am yr yspaid hwnw; ar ol hyny, adeiladwyd capel bychan a thô gwellt arno, trwy offerynoliaeth un Thomas Rowlands, Treban, a chynaliwyd moddion crefyddol ynddo dros amryw flyneddau. Pa bryd, neu gan bwy y ffurfiwyd yr eglwys sydd ansicr.

Yn y flwyddyn 1824, adeiladwyd y capel presenol (Salem), pryd y symudwyd yr achos o Geirchiog i Fryngwran, yn mhlwyf Llechylched; rhifedi yr aelodau ar y pryd oedd 50. Cynyddodd yr achos i'r fath raddau fel y bu yn angenrheidiol helaethu yr addoldy yn y flwyddyn 1839. Traul adeiladu yr addoldy cyntaf yn Bryngwran oedd £150, yr hon a symudwyd yn llwyr yn mhen tua 10 mlynedd, heb fyned i unlle o'r gymydogaeth i ofyn cymhorth. Y baich, mewn gofal a llafur, gan mwyaf, a ddisgynodd ar weinidog y lle, y Parch. Robert Roberts, Treban; yn enwedig ar ol colli y cyfaill ffyddlon, Mr. Evan Griffith, tad Mr. John Evans, Gorslwyd, a Mr. Evan Griffith, Gwalchmai. Dangosodd Mr. Evan Griffith ofal diffuant am gynorthwyo y gweinidog gyda'r adeiladaeth, a llawenychodd yn fawr weled yr addoldy yn llawn ar ddydd yr agoriad. Dygwyddodd fod afiechyd marwol yn ei deulu ar y pryd, a chafodd yntau ei daro yn glaf yn dra disymwth, a symudwyd ef o'r Salem isod i'r Salem uchod yn fuan wedi agoriad y capel, yr hyn a barodd golled fawr i'r gweinidog a'r eglwys. Traul ail-adeiladu yr addoldy oedd yn nghylch £180, yr hon hefyd fel y draul gyntaf, a symudwyd yn llwyr trwy ymdrechiadau cartrefol.

Y diweddar Barch. John Jones, Talgarth, oedd y gweinidog sefydlog cyntaf a fu ar yr eglwys hon, ond nid ydym yn sicr pa hyd y bu yn llafurio yma. Dilynwyd ef gan y diweddar Barch. Robert Roberts, Treban, yr hwn oedd wedi cael ei fagu yn y gymydogaeth. Urddwyd ef Mehefin 29, 1810. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y personau canlynol:-y Parchn. George Lewis, Llanuwchllyn; John Griffith, Caernarfon; Jonathan Powell, Rhosymeirch; John Evans, Amlwch; Arthur Jones, Bangor; William Williams, Wern; John Evans, Bala. Bu Mr. Roberts yn y weinidogaeth am tuag 28 o flyneddau. Byrhawyd ei lafur a'i ddefnyddioldeb i fesur helaeth am y pedair blynedd diweddaf o'i oes gan effeithiau y parlys mud (apoplexy), yr hyn hefyd, o'r diwedd, a achlysurodd ei farwolaeth; a gorphenodd ei fywyd