Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eidfa iddo, pryd y chwanegwyd lluaws at yr eglwys. Yn mhlith y dychweledigion y pryd hwnw, enwir Mr. Lewis Jones, Mr. John Owen, rholiwr, a'i briod; Mrs. Mary Jones, Siop, yr hon a fu yn lletygar i'r pregethwyr dros lawer o flyneddau; Mr. John Morris a'i briod; Mr. John Noall, Mr. John Lewis, saer a'i briod; a Mr. Morris Owen a'i briod. Yn y flwyddyn 1827, adeiladwyd yr addoldy presenol. Yr oedd traul yr adeiladaeth tua £220. Tua'r un adeg y daeth Mr. Thomas Owen i gynorthwyo ei hybarch dad yn ngwaith y weinidogaeth. Ordeiniwyd ef yn y flwyddyn 1828. Gweinyddodd y gweinidogion canlynol ar yr achlysur:-J. Evans, Amlwch; D. Jones, Rhosymeirch; R. Roberts, Treban; a W, Griffith, Caergybi. Gan fod yr eglwys hon wedi bod mewn undeb gweinidogaethol o'r dechreuad ag eglwys Ebenezer, Llanfechell, cyfeiriwn y darllenydd at hanes yr eglwys hono am restr o'r gweinidogion a fuont yma. Rhifedi yr eglwys ydyw 80, yr Ysgol Sabathol 75, y gynulleidfa 160. Y pregethwyr a godwyd yma ydynt, Mr. Robert Edwards, Mr. Hugh Owens, a Mr. Richard Jones. Y maent yn llafurus a chymeradwy gartref ac oddi cartref.

SARON,

BODEDERN.

CYNYGIODD ychydig o Annibynwyr i ddechreu achos crefyddol yn y lle hwn mewn tŷ anedd o'r enw Plás-main, tua 60 mlynedd yn ol. Yn lled fuan ar ol dechreu yr achos, gorfodwyd hwy i ymadael o'r lle, a chymerasant hen dŷ anedd eilwaith i'r un perwyl, o'r enw Llawr-y-llan. Deusi y Parch. Robert Roberts, Salem, yno ar un adeg yn rheolaidd i bregethu. Dywed y Parch. John Hughes, gweinidog presenol yr eglwys hon, iddo fod yno rai ugeiniau o weithiau, pan yn fachgenyn, gyda'i dad yr adeg hono; yr oedd yma 3 neu 4 o hen frodyr duwiol, a 6 neu 7 o hen chwiorydd ffyddlon, sef Owen Rowland, yr Efail-newydd, a'i wraig mor nodedig ag yntau, a merch iddynt, yr hon sydd eto yn fyw ac yn dra ffyddlon gyda'r achos yn Saron.

Adeiladwyd yr addoldy presenol yn y flwyddyn 1829. Derbyniwyd y swm o £30 tuag at ddileu y ddyled o Gleifiog-isaf, a chyfranodd y Parch. R. Roberts £10 i'r un dyben, a gwnaed y gweddill i fynu trwy gasgliadau yr eglwys a'r gymydogaeth; yr