Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd y draul tua £100, a thalwyd y cyfan. Rhoddodd Mr. Roberts ei lafur gweinidogaethol i eglwys Saron yn rhad yr holl dymor y bu yn gofalu drosti. Ni bu nemawr o arwyddion fod y caredigrwydd hwnw wedi bod o wir leshad i'r eglwys, ar ol ei ymadawiad ef i dderbyn ei wobr. Olynydd Mr. Roberts oedd y Parch. David Davies, yn awr o Geryg-cadarn, swydd Frycheiniog; yr hwn oedd hefyd yn gweinidogaethu yn Llanddeusant a Llanfachraeth, mewn cysylltiad â'r lle hwn. Ar ei ol ef, cymerwyd gofal yr eglwys gan y Parch. William Evans, yn awr o Fagillt, sir Fflint. Yn ei amser ef y torwyd y cysylltiad rhwng y lle hwn â'r manau blaenorol a enwyd, pryd yr ymunodd Bodedern â Llanfairyneubwll i fwynhau yr un weinidogaeth; bu Mr. Evans yn llafurio yn ffyddlon yn y ddau le dros amryw flyneddau. Yn ystod gweinidogaeth Mr. Evans yr ymunodd y gweinidog presenol â'r eglwys yn Bodedern. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1849. Derbyniodd alwad i gymeryd gofal gweinidogaethol yr eglwys mewn cysylltiad â Llanfachraeth a Llanfairyneubwll, yn nechreu y flwyddyn 1854; a neillduwyd ef i waith pwysig y weinidogaeth yn mis Mawrth yr un flwyddyn. Bu Mr. Hughes yn gwasanaethu y tair eglwys yn ofalus am dros bum mlynedd, ond tua thair blynedd yn ol, agorodd rhagluniaeth y ffordd i Lanfairyneubwll fyned mewn cysylltiad â Maelog; ac felly nid ydyw yn gofalu yn bresenol ond am Bodedern a Llanfachraeth yn unig. Nifer yr aelodau yn Saron ydyw 36, yr Ysgol Sabbathol 30, y gynulleidfa yn agos i 60.

SOAR,

RHOSFAWR.

MEWN tŷ bychan o'r enw Tafarn-y-wrach, y dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn yr ardal hon Yr oedd y wraig, Ann Pritchard, yn aelod yn Rhosymeirch, a'r cyfeillion o Rhosymeirch oeddynt brif noddwyr yr achos yn ei gychwyniad; cynalient gyfarfodydd gweddi yn y lle, ac yn achlysurol deuent a phregethwr gyda hwynt. Yr efengylydd John Bulk, oedd un o'r pregethwyr cyntaf a ddaeth yma; arferai bregethu yn daranllyd ac effeithiol iawn. Bu y Parch, Peter Williams, ac eraill o dadau Ymneillduaeth, yn pregethu yn Nhafarn-y-wrach. Yr oedd ardal y Rhosfawr yn y tymor hwn yn