hynod o lygredig a digrefydd; treulid Sabbathau, yn gyffredin, mewn chwareuaethau ffol a phechadurus, Wedi cynal cyfarfodydd crefyddol am beth amser yn nhŷ Ann Pritchard, ymddengys fod y lle wedi cael ei roddi i fynu yn hollol, oherwydd esgeulusdra a difaterwch y trigolion. Yn mhen rhyw yspaid drachefn, dechreuwyd pregethu mewn tŷ arall yn y gymydogaeth, o'r enw Storehouse-wen; lle y deuai y Parchn. Owen Thomas, Carrog; Robert Roberts, Treban; Arthur Jones, Bangor; yn nghydag eraill yn achlysurol i bregethu. Dywedir y byddai cynulleidfaoedd lluosog yn arfer ymgasglu i'r lle hwn, nes y darfu i wr eglwysig ymyraeth yn draws-awdurdodol â'r addoliad, a'r canlyniad fu, i'r cyfeillion ofni cynal y cyfarfodydd yn hwy. Adroddir yr hanes fel y canlyn:-Dygwyddodd bod hen chwaer grefyddol o Benmynydd, yr hon oedd yn afiach, yn aros ar y pryd mewn tŷ bychan ar y ffordd gerllaw y Storehouse-wen. Gan ei bod yn analluog i fyned i wrandaw y pregethau, penderfynwyd cynal cyfarfod gweddi yn y tŷ lle yr oedd yn aros, un prydnawn Sabbath. Pan ddaeth y gynulleidfa yn nghyd, gwelwyd fod y ty yn rhy fychan i'w cynwys, a threfawyd i gynal y moddion ar ochr y ffordd, gyferbyn â drws y tŷ, a dygwyd yr hen chwaer glaf allan ar gadair i blith y dorf. Yr oedd y gynulleidfa yn lluosog, yr hîn yn ffafriol, a'r nefoedd yn tywallt ei bendithion; ond dygwyddodd pan oedd un hen frawda berthynai i gapel Glasinfryn yn gweddio, i offeiriad adnabyddus i'r bobl am ei ysbryd erlidgar, farchogaeth i ganol y dorf, gan glecian ei fflangell mewn tymher pur nwydwyllt. Yr oedd yr hen frawd yn ei weddi ar y pryd, yn diolch yn wresog i'r Arglwydd am ryddid i addoli, &c., pan y gwaeddodd yr offeiriad mewn llais bygythiol, "Pa ryddid sydd gan dy fath di, mi edrycha' i ar ol dy ryddid di," Pa fodd bynag, aeth y gweddiwr yn mlaen yn ddiarswyd nes y gorphenodd ei weddi. Yna yr offeiriad a ddechreuodd "chwythu bygythion a chelanedd" yn erbyn gwr y Storehouse-wen, gan ei rybuddio y dygai ef o flaen yr heddynadon os cadwai gyfarfodydd o'r fath yn ei dŷ, neu ar fin y ffordd mwyach. Ofnodd yr ychydig ddysgyblion, a phenderfynasant roddi y lle i fynu, a daeth y Parch, Owen Thomas, Carrog, yn ol eu dymuniad, y nos Sabbath canlynol, i bregethu farewell sermon yr achos yn y Storehouse-wen!
Ar ol hyn, cofrestrwyd tŷ bychan arall o'r enw Tanyrallt, i bregethu ynddo. Cynaliwyd cyfarfod ar y Sabbath i'w agor, a phregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Arthur Jones, Bangor, a Robert