Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Roberts, Treban. Ymddengys fod yr ychydig Annibynwyr oedd yn yr ardal hon y pryd hwnw, yn aelodau, naill ai yn Rhosymeirch neu yn Mhentraeth; a thybir mai yn Tanyrallt y corfforwyd yr eglwys Gynulleidfaol yn Rhosfawr. Arferai y Parch. D. Beynor, pan oedd yn gweinidogaethu yn Peniel, ddyfod yma yn lled reolaidd i bregethu yr adeg hon. Anrhegwyd ni ganddo âg ychydig o hanes yr eglwys hon yn ei chychwyniad; dywed Mr. Beynon, "Yn ystod y gauaf, 1814, ac yn nechreu y flwyddyn ddilynol, yr oedd y gynulleidfa yn dal i gynyddu yn Rhosfawr, a dywedais wrth y cyfeillion yn Peniel fy mod yn teimlo awydd, wrth weled y llyn yn Rhosfawr mor lawn o bysgod, i dynu y rhwyd i'r lan bellach. Awgrymais hefyd y buaswn yn hoffi i ddau neu dri o honynt ddyfod gyda mi yno y nos Sabbath canlynol; cytunwyd ar hyny, ac er llymed oedd yr hin, yr oedd yno luoedd wedi ymgasglu yn nghyd yn ein disgwyl: pregethais yn ymyl y drws, a safai y dorf oddi allan. Ar ddiwedd yr oedfa, dywedais ein bod yn bwriadu cynal ychydig o gyfeillach grefyddol yn y tŷ cyn dychwelyd i Lanerchymedd, ac os oedd yno rai yn cael eu tueddu i ddangos eu hochr o blaid y Gwaredwr bendigedig, ein bod yn ei Enw, yn rhoddi gwahoddiad serchog iddynt i ddyfod i mewn i'r tŷ atom ar ol canu penill. Wedi canu aethom i mewn, a phob un a'i lygaid yn bryderus ar y drws, yr hwn oedd eto heb ei gau; yn fuan, canfyddem un yn troi i mewn, un arall drachefn yn ei ddilyn, &c., hyd nes y daeth 7 o bersonau yn mlaen yn ddrylliog iawn, i ymofyn am drugaredd i'w heneidiau"" Tueddir ni i gredu mai dyma ddechreuad yr eglwys Annibynol yn Rhosfawr: pa bryd ar ol hyn, neu gan bwy y ffurfiwyd yr eglwys yn rheolaidd, nis gallwn ddyweyd gydag un math o sicrwydd.

Wedi bod yn addoli yn Tanyrallt am tua phedair blynedd, adeiladwyd yr addoldy presenol, a thŷ mewn cysylltiad âg ef, yn y flwyddyn 1816; yr oedd y draul arianol tua £70; cludwyd y defnyddiau yn rhad gan amaethwyr parchus o'r gymydogaeth, Nifer yr aelodau pan aed i'r capel newydd oedd 14. Ychydig amser yn ol, aed i'r draul o adgyweirio yr hen addoldy, ac ychwanegwyd rhai eisteddleoedd newyddion, fel yr ymddengys yn llawer harddach nag y bu; y mae'r ddyled wedi ei dileu. Mae yma fynwent helaeth, yr hon a wnaed yn anrheg i'r eglwys a'r gynulleidfa gan y brawd didwyll Mr. Thomas Hughes, un o ddi-