oedd yn hiraethu yn bryderus am y dydd pan y byddai i lyffetheiriau gormes gael eu dryllio, a'r deiliaid yn ddi wahaniaeth yn cael mwynhau rhyddid i addoli Duw yn ol llais eu cydwybodau. Fel ag y gwelir ambell i foreu tyner a hafaidd yn dilyn noswaith ddu a thymestlog, felly y bu yma. Cyflawnodd y brenin fesur ei anwiredd, diorseddwyd ef trwy orchymyn seneddol, a rhoddwyd ef i farwolaeth. Mewn canlyniad i hyn, newidiwyd ffurf y llywodraeth-cyhoeddwyd rhyddid cydwybod, a dyrchafwyd Cromwell yn llywodraethwr. Yn ystod y Weriniaeth, ffurfiwyd lluaws o fesurau diwygiadol i'r dyben o gyfarfod âg angen yr oes, Gwnaed cyfnewidiadau pwysig yn neddflyfr y deyrnas, dilewyd y cyfreithiau gorthrymus, a mabwysiadwyd rhai eraill mwy rhyddfrydig a chyfiawn. Dewiswyd dirprwywyr i ofalu am burdeb y weinidogaeth yn yr Eglwys Wladol, a bwriwyd allan o honi y gweinidogion di fedr ac anfucheddol a wasanaethent wrth ei hallorau. O dan nawdd yr arglwydd Amddiffynydd, daeth Independiaeth yn ffaith bwysig, a dyrchafwyd yr enwad i anrhydedd a chyhoeddusrwydd arbenig. Er yr holl anfri a deflir ar weithrediadau y Weriniaeth gan haneswyr pleidiol a rhagfarnllyd, y mae yn ddiamheuol fod y cyfnod hwnw wedi bod yn anrhaethol werthfawr i achos crefydd a rhyddid yn gyffredinol. Ni pharhaodd pethau yn y sefyllfa ddymunol hon yn hir, oblegid gorchfygwyd Cromwell gan angau, ar ol teyrnasu am bedair blynedd ac wyth mis. O herwydd nad oedd ei fab yn feddianol ar y gwroldeb a'r medrusrwydd angenrheidiol i lywyddu y deyrnas, rhoddodd yr awdurdod i fynu, ac esgynodd Siarl II i'r orsedd yn y flwyddyn 1660.
Esgynodd y brenin hwn i'r orsedd trwy ddylanwad yr Esgobaethwyr, ac addawai yntau yn deg ar y pryd i estyn rhyddid crefyddol i'w holl ddeiliaid, Mor gynted ag g deallodd Siarl fod ei orsedd yn ddyogel, dechreuodd weithredu yn orthrymus ac erlidgar tuag at y dosbarth rhyddfrydig o'i ddeiliaid. Lluniwyd deddfau caethion mewn cysylltiad â chrefydd, ac amcanwyd drachefn i rwymo cydwybodau dynion yn ol mympwy y brenin a'i senedd lygredig, Y gyntaf o'r gyfres o ddeddfau gorthrymus a luniwyd yn y teyrnasiad hwn oedd "Deddf Unffurfiaeth" (Act of Uniformity). Ymddengys fod yr uchel-eglwyswyr ar y pryd, yn anfoddlon i ffurf y gwasanaeth crefyddol a weinyddid gan y gweinidogion efengylaidd a ddewiswyd gan y dirprwywyr yn amser Cromwell, a phenderfynasant adferyd y "Llyfr Gweddi Cyffredin" i fod yn safon unffurfiaeth yn ngwasanaeth yr Eglwys. Llwyddwyd i basio ysgrif yn nau dŷ y senedd i orfodi pob