aconiaid y lle. Rhifedi yr eglwys ydyw 66, yr Ysgol Sabbathol 64, y gynulleidfa 110. Y gweinidogion fu yn gofalu am yr eglwys hon, oeddynt y Parchn. J. Evans, Beaumaris; J. Griffith, Bulkley; T. Davies, Bodffordd; Henry Rees, Penuel Hope. Bu y Parch. Edward Morris, yn awr o Chwilog ac Abererch, Arfon, yn byw yma am beth amser, ac yn bur gymeradwy yn yr ardal. Yma yr erys y brawd W. Jones, yr hwn sydd yn llafurus a defnyddiol gartref ac yn y cylchoedd cyfagos.
TEMAN,
GROESLON.
ADEILADWYD y capel hwn yn y flwyddyn 1815. Dechreuwyd yr achos yma drwy offerynoliaeth y Parch. Benjamin Jones, yr adeg pan oedd y gwr llafurus hwnw yn gweinidogaethu yn Rhosymeirch a'r Capelmawr, Bu yr achos Annibynol yn hynod o flodeuog yn y lle hwn am rai blyneddau ar ol ei sefydliad: y gwrandawyr yn lluosog, a'r frawdoliaeth yn unol â gweithgar: yr oedd pob argoelion ar y pryd y deuai mewn amser yn achos cryf a dylanwadol iawn. Ond fel arall y bu: nid oedd yr un capel arall y pryd hwnw, yn nes na Niwbwrch, neu Brynsiencyn i'r lle hwn; ond pan godwyd capelau gan enwadau eraill yn y gymydogaeth, dechreuodd y gynulleidfa ymwasgaru. Bu y diweddar Barch. Hugh Lloyd, Towyn, yma am rai blyneddau yn cadw ysgol ddyddiol, ac yn pregethu yn achlysurol. Y gweinidog sefydlog cyntaf yn y lle hwn, oedd y Parch. Evan Roberts, yr hwn a ddaeth yma o athrofa Llanfyllin. Ei olynydd ef oedd y Parch. William Roberts, yr hwn a fu farw yn mhen ychydig flyneddau ar ol ei ddyfodiad i'r wlad. Wedi hyny, bu y Parch. Ishmael Jones yma dros dymor lled faith. Mae yr achos yn y Groeslon wedi bod er's blyneddau lawer bellach, fel corsen ysig, neu lîn yn mygu; ond er hyny, y mae argoelion bywyd i'w ganfod ynddo. Y mae rhai o hen noddwyr yr achos yn parhau yn ffyddlon hyd yn bresenol, megis, Joseph Davies, Ysw., meddyg, Niwbwrch; a'r hen chwaer letygar, Jane Williams, Tŷ'r capel. Y gweinidog presenol ydyw y Parch. Hugh Roberts, yr hwn trwy ei lafur a'i ffyddlondeb di-flino a gasglodd yn ddiweddar y swm o £100, tuag at ddileu y gweddill o'r ddyled oedd yn aros ar y lle. Nifer aelodau yr eglwys yn y lle hwn a Niwbwrch ydyw 20, yr Ysgol Sabbathol 15, y gynulleidfa 30.