Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn fuan ar ol hyny, daeth y Parch. Robert Roberts, Treban, i'r dref, a rhoddodd seiri coed a cheryg ar waith i adgyweirio y lle, yr hyn a gostiodd £8. Bu y Parch. D. Roberts, Bangor, (wedi hyny o Ddinbych) mor garedig a dyfod yma, a chasglodd yr arian a enwyd yn y gymydogaeth mewn ychydig amser. Erbyn hyn, cafwyd cymdeithas amryw gyfeillion oeddynt wedi bod gyda'r achos mewn lleoedd eraill, Mr. Owen Lewis, o eglwys Beaumaris, yr hwn wedi hyny a adeiladodd ein Tabernacle. Gwelwyd llawer o'i ffyddlondeb ef tuag at yr achos gwan. Un arall o'r enw Thomas Williams, yr hwn oedd wedi bod yn aelod yn Bodedeyrn yn amser y Parch. John Jones, Ceirchiog, oddeutu 19 o flyneddau cyn hyn; a ail-ymunodd a ni, a bu yn aelod flyddlon a diacon gofalus hyd ei ddiwedd, a gellir argraffu ar garreg ei fedd, "yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth." Gorphenodd ei yrfa Awst 8, 1830. Yr oedd un arall o'r enw Robert Hughes o eglwys y Parch. Jonathan Powell wedi dyfod yma ddwy flynedd cyn hyn, ymunodd yntau a'r achos, a bu am yspaid yn gymorth mawr gyda'r canu &c. hefyd, yr oedd hen aelod arall o eglwys y Parch. J. Griffith, Caernarfon, wedi symud yma er's tua phum mlynedd gyda ei phriod Mr. David Roberts, barcer; yr oedd hwn yn ŵr didwyll yn ei alwedigaeth, fel yr hen frawd ffyddlon a chywir William Griffith, ei olynydd. Y rhagddywededig Mr. Roberts, oedd y cyntaf a dderbyniwyd yn "y parlyrau," ac erys byth yn ysgub y blaenffrwyth o eglwys yr Annibynwyr yn Nghaergybi.

Yn niwedd y flwyddyn 1817, cawsom gyfarfod pregethu, pryd yr ymwelwyd â ni gan amryw o weinidogion yr ynys. Cawsom lawer o anogaethau ganddynt i fyned yn mlaen, ac addewid y byddai iddynt. hwythau wneud a allent i'n cynorthwyo. Bu y cyfarfod hwn yn foddion i dynu sylw llaweroedd o'r newydd at yr achos, a'u henill i wrandaw. Er mor wael oeddym, dangoswyd caredigrwydd mawr ar y pryd i'r Cenhadau, yn enwedig gan Mr. John Ellis, swyddog perthynol i'r Dollfa, yr hwn a fu yn gyfaill calon, a chyn ei ddiwedd yn aelod ffyddlon gyda'r achos, fel y mae ei weddw, a'i blant, a'i ŵyrion eto ar ei ol. Ar ei fwrdd ef y ciniawodd yr holl bregethwyr ar ddiwrnod y cyfarfod cyntaf hwnw. Buom yn lled aniben yn cael cyfleustra i weinyddu yr Ordinhadau. Ond cawsom hyny hefyd mewn amser. Y Parch. Owen Thomas, Carrog, oedd y cyntaf a weinyddodd swper yr Arglwydd yn ein plith. Wedi hyny cafwyd y fraint hon yn lled gyson, a derbyniwyd ambell un i gymundeb, ond yn lled anaml. Yn