y flwyddyn 1819, daeth William Parry a Margaret ei wraig yma i fyw, y rhai oeddynt aelodau yn Llanerchymedd; a buont yn ffyddlon iawn fel y mae eu hiliogaeth hyd heddyw. Erbyn hyn, yr oeddym yn alluog i gynal cyfarfodydd gweddi pan ein siomid am bregethwr, ac ar amserau eraill. Yn y flwyddyn 1821, daeth Rowland Jones a Margaret ei wraig yma i fyw. Yr oeddynt yn aelodau o'r blaen yn Llangadwaladr, a bu eu dyfodiad yn llawer o gysur a chalondid i ni. Fel hyn, rhwng dieithriaid a rhai wedi eu derbyn yn y lle, yr oeddym yn rhifo tua 12 o aelodau.
O herwydd fod prinder llefarwyr yn y wlad, byddem weithiau heb neb i lenwi y Sabbathau. Parai hyny lawer o ddigalondid i ni, ac. anturiasom feddwl am gael bugail i ofalu am danom. Buom yn ymddiddan a dau frawd ieuainc, un o Athrofa Llanfyllin, a'r llall o Athrofa Caerfyrddin. Cawsom addewid gan y ddau y deuent yma, ond fe'n siomwyd gan y naill a'r llall o honynt. Pan mewn iselder meddwl o'r herwydd, cawsom newydd da rhagorol gan y Parch. R. Roberts, Treban, sef fod Mr, William Griffith, Caernarfon, a'i frawd yn athrofa Caerfyrddin, ac os gallem gael ganddo addaw dyfod atom, y byddai yn debyg o fod o fendith i'r achos a'r gymydogaeth. Addawodd wneyd a allai tuag at hyny, ac felly y gwnaeth, Yn nechreu Awst, 1821, daeth cyhoeddiad John a William Griffith i fod yn pregethu yn Nghaergybi un o'r Sabbathau canlynol. Wedi i ni gael y cyhoeddiad, penderfynasom ofyn benthyg capel ein brodyr y Bedyddwyr, a chaniatwyd ef yn rhwydd iawn. Wedi i Mr. W. Griffith ddyfod, darfu i rai o honom ddefnyddio y cyfleusdra i ymddyddan âg ef ar y mater, ond ni roddodd un addewid, ac ni ddangosodd unrhyw wrthwynebiad ychwaith; addawodd ymweled â ni drachefu cyn dychwelyd i'r athrofa, ac ar ei ddyfodiad y tro hwnw, cawsom fwy o hamdden i ymddyddan, a chawsom beth cysur ganddo cyn ymadael. Pan ddaeth Mr. Roberts, Treban i'r dref, tywalltasom ein calonau iddo ar yr achos, a deallasom ei fod yntau ac eraill yn cydweithredu o'n plaid; er ein bod yn cael ein diystyru gan rai, fel ychydig o bobl dlodion, dim ond 13 o aelodau, heb na chapel na chynulleidfa ond un fechan iawn, eto, yn meddwl cael dyn ieuanc dysgedig a pharchus i ddyfod i'n plith. Yr oeddym wedi meddwl am wneyd cais at eglwysi y sir i'n cynorthwyo i gael gweinidog am flwyddyn neu ddwy, a chrybwyllwyd hyny hefyd gan rai o'r gweinidogion mewn cyfarfod misol; ond dywedodd Mr. Griffith os byddai i Dduw dueddu ei feddwl i