ddyfod i Gaergybi, yr ymddiriedai ef yn y Duw hwnw am gynaliaeth heb gymhorth neb o'r eglwysi eraill. Felly y bu, ac y mae eglwys y Tabernacl yn ddigon parod i uno yn nghyd i alw cyfarfod o ddiolchgarwch i Dduw o herwydd ei ddyfodiad i'w plith. Cyn diwedd y flwyddyn 1821, cytunasom a'n gilydd i roddi galwad i Mr. Griffith i fod yn weinidog arnom, ac amlygasom ein penderfyniad i'n pleidiwr serchog Mr. Roberts, Treban. Gyda'r parodrwydd mwyaf, cefnogodd yntau ein bwriad, ac addawodd ysgrifenu yr alwad, ac y caem ninau y tro nesaf y deuai i'r dref, gyfleustra i'w llawnodi. Yn mhen tua mis ar ol hyn, daeth Mr. Roberts yma i bregethu, ac ar ddiwedd yr oedfa, bore Sabbath, galwodd y cyfeillion yn nghyd; yna amlygodd y dyben, sef i lawnodi galwad i Mr. W. Griffith, Caernarfon, yr hwn oedd ar y pryd yn Nghaerfyrddin, i ddyfod i'w bugeilio yn yr Arglwydd. Wedi deall hyn, yr oedd pawb am y cyntaf i ddyfod yn mlaen. Disgwyliasom yn bryderus am atebiad, ac ni a'i cawsom er ein llawenydd; dywedai Mr. Griffith y byddai yn debyg o fod gyda ni y mis Gorphenaf canlynol; ac ar yr 16eg o'r mis hwnw, yn y flwyddyn 1822, cyfarfuasom mewn llawenydd mawr dros ben. Y Sabbath canlynol, sef yr 21ain, pregethodd Mr. Griffith oddi ar Act. xviii. 910." Y mae cofnodion Mr. Davies yn terfynu yma. Dilynir yr hanes hyd yn bresenol gan y Parch. W, Griffith,
Dywed Mr. Griffith, "Y mae dilyniad yr hanes uchod wedi ei adael i mi o 1822, hyd 1862, deugain mlynedd o daith yr anialwch; ond er fod yr amser yn faith, bydd yr adroddiad o hono yn fyr. Daeth yr alwad y cyfeirir ati yn y llinellau blaenorol i'm llaw Chwefror 16, 1822; ac ar ol ystyriaeth ddwys, a gweddi daer, tueddwyd fi i gydsynio â hi. Barnai fy athraw, y Parch. D. Peter, nad oeddwn yn gwneyd yn iawn, gan y gallaswn yn hawdd gael maes mwy manteisiol i lafurio. Dau beth a barodd i mi benderfynu. Un peth oedd bywyd yr achos yn Nghaergybi; sicrhai gweinidogion yr ynys y byddai raid iddynt ei roddi i fynu, os nad awn yno: nis gallwn oddef y meddwl o fod ei waed ar fy nwylaw. Peth arall oedd gradd o hyder yn addewid fy Nuw, na byddai arnaf eisiau dim daioni. Meddyliais pe buasai Syr John Thomas Stanley, oedd yn byw yn y gymydogaeth, yn addaw felly, y buaswn yn galonog; a theimlais mai gormod o sarhad fuasai amheu y Digelwyddog! er hyny yr oedd fy ffydd yn eg wan. Gyda bod y llythyr, yr hwn oedd yn cynwys atebiad cadarnhaol i'r alwad, wedi ei ollwng i'r llythyrgell, dywedais wrth fy nghyd