Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

at yr eglwys, y fath ag a elwir yn ddiwygiadau." Cymerodd y blaenaf le yn yr haner blwyddyn gyntaf o fy ngweinidogaeth. Ymwelodd yr Arglwydd yn rasol iawn a ni y pryd hwnw. Derbyniwyd lliaws o aelodau, ac yn eu plith o benau teuluoedd, yn wyr a gwragedd gyda'u gilydd, y rhai fuont yn dra defnyddiol. Bu hyn yn foddion i'n calonogi yn fawr, fel arwydd er daioni. Cafwyd ymweliadau cyffelyb yn 1832 ac 1840. Hefyd, un arall grymus iawn yn 1848. Ond y mwyaf effeithiol o'r cyfan oedd, yr adfywiad nerthol yn 1859-60. Breintiwyd ni a thangnefedd heddychol o'r dechreu hyd yn bresenol. Unwaith y bygythiwyd yr eglwys ag ymraniad, pan yn ei phlentynrwydd dechreuol. Pwnc y ddadl oedd, pa un ai canwyllau dip, ai ynte canwyllau mold, a ddylesid ddefnyddio yn y "parlyrau," Yr oedd y naill blaid am ddangos yr achos allan yn anrhydeddus, a'r blaid arall am "ddarparu pethau onest yn ngolwg pob dyn," ac yn ofni y buasai y fold uwchlaw eu gallu hwy. Ond yr ydym ni eu holynwyr wedi myned uwchlaw y fold a'r dip, yn gymaint a bod y nwy (gas) ysplenydd wedi eu hymlid hwynt oll ymaith.

Mae y gynulleidfa gyda y blaenaf mewn ffyddlondeb yn ei chyfraniadau, at yr achos yn gartrefol ac yn gyffredinol. Breintiwyd ni hefyd a diaconiaid ffyddlon. Y mae 5 a fu yn gwasanaethu y swydd wedi myned i orphwys oddiwrth eu llafur, ar ol enill iddynt eu hunain "radd dda," sef Thomas Williams, David Hughes, Rowland Jones, Hugh Rowlands, a Robert Roberts, gynt o'r Bank. Mae y 9 sydd yn aros o gyffelyb feddwl, ac yn gwir ofalu. Nifer yr aelodau eglwysig ydyw 600, yr ysgol Sabbatbol 450, y gynulleidfa 950. Nid oes yn aros yn yr eglwys yn bresenol, ond un o'r 13 oedd gyda mi ar y cyntaf, sef, ein hanwyl chwaer bedwar ugain mlwydd, Catherine Jones. Trwy diriondeb trugaredd ein Duw, gallaf ddweyd bellach, "yn nghanol fy mhobl yr ydwyf fi yn trigo," ac yn eu canol yr ydwyf yn debyg o noswylio. Cefais gymhelliadau i'w gadael am Dreffynon, Caerfyrddin, Llynlleifiad, Caernarvon, a Llundain; ond methais a gweled fy ngalwad oddi yma mor amlwg o Dduw, ag yr ymddangosai fy nyfodiad yma." Y pregethwyr a godwyd yn yr eglwys hon, ydynt y Parchn. D. Rowlands, B. A., Llanbrynmair, ac E, Jones, Llanhaiarn, Arfon.