Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HOREB,

PENMYNYDD.

Yn y plwyf hwn y pregethwyd gyntaf gan yr Ymneillduwyr yn ynys Mon. Gweinidog Annibynol oedd y pregethwr, sef, y Parch. Lewis Rees, o Lanbrynmair, ac ar gais aelod eglwysig gyda'r Annibynwyr, sef Mr. William Pritchard, Plas-Penmynydd, (wedi hyny o Fodlewfawr a Chlwch-dernog) yr ymwelodd a'r lle.[1]

Dechreuwyd pregethu yn y lle hwn mor foreu a'r flwyddyn 1742, chwech ugain mlynedd yn ol, eto, ni sefydlwyd yr un achos crefyddol yma hyd yn lled ddiweddar. Yr oedd gwahanol bethau yn achosi hyn. Colled fawr i'r achos crefyddol yn Mhenmynydd oedd symudiad Mr. William Pritchard o'r ardal, gan mai efe oedd y prif offeryn i'w ddwyn yn mlaen. Yr oedd yr ysbryd erledigaethus a chreulawn a ddangoswyd o bryd i bryd yn y lle hwn, yn tueddu hefyd i ddigaloni y rhai a ewyllysient wneuthur daioni. Nid ydyw y plwyf ychwaith yn un poblogaidd, ac y mae aneddau y trigolion yn hynod o wasgarog. Ymddengys i'r ardal hon gael ei gadael yn ymddifad o foddion crefyddol rheolaidd (oddi eithr yn eglwys y plwyf) am dymor maith ar ol i'r terfysgwyr roddi atalfa ar y cyfarfodydd a gynelid yn y Minffordd.

Arferai yr ychydig gyfeillion Annibynol oeddynt yn y plwyf, yn flaenorol i sefydliad yr achos yn eu plith, fyned yn rheolaidd i Rhosymeirch i addoli. Un o'r rhai ffyddlonaf yn eu mysg oedd yr hen chwaer oedranus Mary Francis, Tynewydd. Pan aeth yn analluog i deithio mor bell, o herwydd henaint a gwaeledd, deuai y cyfeillion crefyddol yn fynych o Rosymeirch a Phentraeth i ymweled â hi, a chynalient gyfarfodydd gweddi yn ei thŷ. Dywedir y byddai y cyfarfodydd hyny yn rhai bywiog a hyfryd dros ben; daeth y gymydogaeth yn fuan i'w hoffi, a dechreuwyd ymofyn am le cyfleus i bregethu yn achlysurol. Cydsyniodd un William Jones, Ty'nycae, a chais y brodyr, a rhoddodd ei dŷ i'r perwyl hwnw. Pregethid ar brydiau yn y Tymawr a manau eraill yn yr ardal, ond Ty'nycae oedd y prif dŷ cyfarfod yr adeg hono. Yn mhlith eraill a ddeuent yma i bregethu, coffeir am y Parchn. Owen Thomas, Carrog; Jonathan Powell, Rhosymeirch; a John Evans, Beaumaris; a deuai Mr. Hugh Lloyd, Groeslon; a Mr. Hugh Hughes, Dulas, yma yn lled fynych. Cyn hir, symudwyd yr achos o Ty'nycae i dŷ gwag o'r enw Dragon

  1. Gwel hanes y Minffordd yn y Rhagdraeth.