Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bach, lle y buwyd yn addoli hyd nes yr adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1827. Gofelid am yr achos yn y Dragon, yn benaf, gan y Parch. John Griffith, yn awr o Buckley. Parhaodd yr achos i gynyddu o dan ofal Mr. Griffith, fel pan symudwyd i'r capel yr oedd nifer yr aelodau yn 25. Yr oedd y personau canlynol yn mhith yr aelodau cyntaf, sef Hugh Roberts, Rhydyrarian; Michael Thomas, Gylched; John Jones, Glanyllyn; Owen Evans, Graigbach; Margaret Lewis, Tymawr; Mary Francis, Tynewydd; Mary Parry, Caehelyg; ac Ann Griffith, 'Ralltgeint. Costiodd yr addoldy a thŷ cyfleus mewn cysylltiad ag ef yn nghylch £180; a thalwyd y cyfan gan gyfeillion yr achos yn y gymydogaeth. Nifer yr aelodau yn Horeb ydyw 42, yr Ysgol Sabbathol 60, y gynulleidfa 100. Y gweinidogion fu yn gofalu am yr eglwys hon ar wahanol amserau oeddynt, y Parchn J. Evans, Beaumaris; John Griffith, yn awr o Buckley; Thomas Davies, Bodffordd; Henry Rees,, Penuel Hope; David Davies, Ceryg-cadarn; Cadwaladr Jones, yn awr o America; ac Owen Evans, Llundain. Bu yr hybarch Thomas Jones yn cadw ysgol ddyddiol, ac yn pregethu yma dros lawer o flyneddau.

CARMEL,

MOELFRO.

DYGWYD y gymydogaeth hon i gryn gyhoeddusrwydd, yn ei pherthynas â drylliad y "Royal Charter," yr agerlong odidog a gurwyd gan y dymhestl ar greigiau Moelfro, Hydref 26, 1859, pryd y collwyd yn agos i 500 o fywydau. Canmolid y trigolion ar y pryd, yn mhrif newyddiaduron y deyrnas, am eu gonestrwydd, a'u parodrwydd i ymgeleddu y rhai a achubwyd, ac i gysuro y rhai trallodedig. Ni dybiwn fod yr anrhydedd a ddeilliaw oddi wrth y fath ganmoliaeth, i'w briodoli, yn benaf ac yn flaenaf i'r addysg grefyddol a gyfranwyd i'r trigolion, trwy bregethiad yr efengyl, a'r Ysgol Sabbathol; yr oeddynt yn adnabyddus â chynwysiad royal charter y dwyfol datguddiad, cyn i "Royal Charter" Gibbs, Bright, a'u Cyf, arllwys ei thrysorau ar eu glenydd. Yr oedd dylanwad blaenorol y naill, wedi eu haddasu `i weithredu yn deilwng yn eu perthynas ofidus â'r llall.

Nis gallwn ddweyd gydag un gradd o sicrwydd, yn mha flwyddyn y dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn Moelfro. Yr