Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weled eu plant yn aelodau o'r eglwys. Cynyddodd yr achos o flwyddyn i flwyddyn o dan weinidogaeth Mr. Owen, ac wedi hyny, o dan ofal y Parch, David Davies. Wedi ymadawiad yr olaf, bu y Parchn, W. Roberts, ac R. E. Williams, yn llafurio yma am amryw flyneddau. Yr oedd yr achos yn Llanfachreth yr holl yspaid blaenorol mewn undeb â Llanddeusant, ac ar ol ymadawiad Mr. Williams y cyd gyfranogodd yn mreintiau y weinidogaeth â Saron, Bodedeyrn; ac felly y mae yn aros hyd yn bresenol. Oddeutu 8 mlynedd yn ol, talwyd £10 o'r ddyled oedd yn aros; wedi hyny, casglwyd trwy ymdrechiadau cartrefol y swm o £30, a derbyniwyd allan o drysorfa y Cyfarfod Chwarterol £20; yr hyn a alluogodd y cyfeillion i ddileu £50 yn rhagor o'r ddyled. Y mae gan yr eglwys ychydig eto mewn llaw i gyfarfod â'r gweddill o'r ddyled sydd yn aros, sef £100, Nifer yr aelodau ydyw 55, yr Ysgol Sabbathol 45, y gynulleidfa yn 80. Cafwyd colled drom yn yr eglwys hon trwy farwolaeth y brawd cywir a ffyddlon Mr. Thomas Humphreys, ond hyderwn yn gryf ei fod yn derbyn ei wobr yn ardal lonydd yr aur delynau, Dywed y Parch, John Hughes, gweinidog presenol yr eglwys, fod golwg siriol a chynyddol ar yr achos, a bod yr eglwys yn dra unol a gweithgar.

REHOBOTH,

MAELOG,

MEWN pentref bychan o'r enw Rhosyneigyr y dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn y gymydogaeth hon. Yr oedd y Parch, G. Rhydero yma ar y pryd yn cadw ysgol ddyddiol, ac efe a fu yn offerynol i ddechreu yr achos. Cesglid cynulleidfaoedd lluosog yn Rhosyneigyr yr adeg hono, a chredir hyd heddyw mai yno y dylesid adeiladu y capel, yn hytrach nag yn y llanerch anmhoblogaidd lle y mae. Adeiladwyd Rehoboth yn y flwyddyn 1837; costiodd y capel a'r tŷ a berthynai iddo tua £140, Rhifedi yr aelodau pan aed i'r capel oedd 9. Yr oedd yr achos hwn am rai blyneddau mewn cysylltiad â Salem, Bryngwran, ond o herwydd pellder y ffordd sydd rhyngddynt, gwelwyd o'r diwedd fod y cynllun yn anfanteisiol i'r ddau le, a thorwyd yr undeb. Yn y flwyddyn 1857, ordeiniwyd y diweddar Barch. Richard Roberts i gyflawn waith y weinidogaeth yn y lle hwn. Bu y brawd ffyddlon yma yn ymdrechgar iawn gyda'r achos, am yn agos i bedair blynedd, pryd y rhoddodd angau derfyn ar ei oes; yr oedd hyn yn