Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

golled fawr i'r achos gwan. Yr oedd Mr. Roberts yn gyfaill serchog a didwyll, yn ddichlynaidd a duwiol yn ei ymarweddiad, yn bregethwr cymeradwy, ac yn hynod o barchus yn ngolwg pob dosbarth yn ei ardal; hebryngwyd ei ran farwol gan dorf alarus, i orwedd yn mynwent y Capelmawr. Yn y flwyddyn 1859, cynhaliwyd cyfarfod Jubilee yma, ar yr achlysur o symudiad y ddyled oedd ar y lle. Nifer yr aelodau ydyw 29, yr Ysgol Sabbathol 20, y gynulleidfa 45. Gofelir yn bresenol am yr eglwys hon, mewn undeb â Siloam, Llanfairyneubwll, gan Mr. Hugh Thomas, Llangefni,

SION,

LLANBADRIG.

ADEILADWYD yr addoldy hwn yn y flwyddyn 1838. Cymerwyd gofal gweinidogaethiol yr eglwys hon gyntaf gan y Parch. David Roberts, yn awr o Gaernarfon, mewn undeb a Siloh, Nifer yr aelodau yn y cymundeb cyntaf oedd 8. Yn mhen rhyw yspaid, symudodd Mr. Roberts i Fanchester, lle y bu yn gofalu am yr eglwys Gynulleidfaol yn Gartside St. am amryw flyneddau. Ar ei ddychweliad yn ol i Gymru, ymsefydlodd yr ail waith yn y gymydogaeth hon, a bu yn llafurio yn llwyddianus yma, mewn cysylltiad a Llanfechell a Chemmaes, hyd nes y symudodd drachefn i Gaernarfon. Ar ei ol ef daeth y Parch. John Jones, yn awr o Faentwrog yma. Llafuriodd Mr. Jones yn egniol yn yr ardal hon am yn agos i bum mlynedd, pryd y symudodd i'r lle a enwyd. Y mae yma amryw o deuluoedd parchus yn "cyfranu i gyfreidiau y saint, ac yn dilyn llettygarwch." Yn eu plith gellir enwi Mrs. Thomas a'i theulu, Clegyrog, Mr, E. Thomas, Fodolisaf; Mr. Hugh Williams, Fodoluchaf; a theulu caredig Glanygors. Ymddifadwyd yr eglwys hon trwy angeu, o wasanaeth un o ffyddloniaid Sïon, sef Mr. Owen Thomas, Clegyrog. Yr oedd Mr. Thomas yn fab i'r diweddar Barch. Owen Thomas, Carrog. Yr oedd y brawd hwn yn Gristion cyson, didwyll, a thangnefeddus. Bu yn offeryn i ddechreu yr achos yn y lle, a pharhaodd yn ffyddlon gydag ef byd derfyn ei oes. Efe a aeth i dangnefedd. Mae yr addoldy hwn wedi cael ei adgyweirio a'i harddu yn ddiweddar, ac nid yn aml y gwelir addoldy bychan mor ddestlus mewn ardal wledig. mae yn anrhydedd i'r cyfeillion a berthynant i'r lle. Mae yr addoldy a'r tŷ a berthyna iddo yn ddi ddyled. Rhifedi yr aelodau ydyw 60, yr Ysgol Sabbathol 40, y gynulleidfa 110.