Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/68

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SILOAM.

TALWRN

PREGETHAI y diweddar Barch. Benjamin Jones, Rhosymeirch yn yr ardal hon oddeutu 70 o flyneddau yn ol; yr oedd yma ddau neu dri yn proffesu gyda'r Annibynwyr ar y pryd, ac yn aelodau o eglwys Mr. Jones. Yn y flwyddyn 1841, yr adeiladwyd yr addoldy presenol; yr oedd y draul yn nghylch £90. Mae yr achos hwn wedi bod yn lled isel a di gynydd y blyneddau diweddaf. Bu yma ddyled drom yn llethu yr achos, ond y mae yn awr wedi ei symud. Trwy ymdrech cartrefol, yn nghyda'r cymorth a dderbyniwyd o gyfarfod chwarterol y sir, gorphenwyd talu y ddyled yn y flwyddyn 1860. Nifer yr aelodau ydyw 17, yr Ysgol Sabbathol 25, y gynulleidfa 45. Codwyd un pregethwr yma, sef y Parch. R. W. Roberts, Clarach, sir Aberteifi. Mae yr eglwys hon mewn undeb â Phentraeth, o dan ofal gweinidogaethol y Parch. D. Williams.

SILOAM,

LLANFAIRYNEUBWLL.

BUWYD yn addoli mewn tŷ anedd yn yr ardal hon, am tua thair blynedd cyn adeiladu y capel hwn. Pregethai y gweinidogion cymydogaethol yn achlysurol, yn nghydag eraill a ymwelent â'r ynys. Adeiladwyd yr addoldy yn y flwyddyn 1843, y draul arianol yn £50. Dangosodd yr ardal ei chydymdeimlad â'r achos trwy gludo y defnyddiau yn rhad. Bu Mr. R. Williams, Carna, y pryd hwnw, a Mr. O. W. Williams, Coedelen, yn hynod o ymroddgar fel arolygwyr yr adeiladaeth. Yr oedd golwg pur lewyrchus ar yr achos hwn yn ei gychwyniad, a pharhaodd felly dros amryw flyneddau. Ond daeth yn auaf arno. Yr oedd y cyfnod rhwng y blyneddau 1855, a 1859, yn dymor oer, diffrwyth, a digynydd ar yr achos hwn. Coffeir yn barchus yn yr ardal, am ffyddlondeb y brawd John Owen, Crossing, yn yr adeg hono; ac am garedigrwydd teuluoedd parchus Carna, a Threflysg, yn lletya y pregethwyr. Bu yr adfywiad crefyddol yn 1859-60, yn anmbrisiadwy werthfawr i'r eglwys hon; ymunodd llawer o'r newydd â hi. Y mae golwg obeithiol ar yr achos yn bresenol, fel y dengys y cyfrif canlynol. Nifer yr aelodau ydyw 36, yr Ysgol Sabbathol 50, y gynulleidfa