i'w godi, ond gogoniant Duw a lleshad eneidiau. Ymadawsant a'u mwyniant personol, gan aberthu y cwbl ar allor fawr daioni cyffredinol. Llyncwyd eu hysbryd i fyny gan ysbryd eu Blaenor, canys Crist nis boddhaodd ef ei hun. Dygasant arwyddair Cristionogaeth yn arwyddair eu bywyd-heb geisio fy lleshad fy hun, ond lleshad llaweroedd. Wynebasant beryglon yn llawen, gorfoleddasant mewn tlodi, a chanasant mewn carcharau. Mae y manau yr erys eu llwch yn gysegredig, eu henwau yn barchus gan y byd, a choffeir am danynt gydag ymgrymiad moesgarol gan genedlaethau sydd eto heb eu geni. [1]
Yn y flwyddyn 1664, tua dwy flynedd ar ol i Ddeddf Unffurfiaeth ddyfod mewn grym, lluniwyd deddf gaeth arall, sef Deddf y Tai Cyrddau (Conventicle Act). Ymddengys oddi wrth y nodiadau blaenorol, mai y gweinidogion Ymneillduol oeddynt yn teimlo fwyaf o herwydd gweithrediadau Deddf Unffurfiaeth. oblegyd dyoddefasant golledion ac anmharch personol mewn canlyniad iddi. Ond yn sefydliad yr olaf, yr oedd y lluaws Ymneillduwyr yn dyoddef yn ddiwahaniaeth y gorthrwm a osodid arnynt. Yr oedd y ddeddf hon yn cyfyngu yn ddirfawr ar ryddweithrediadau y pleidiau Ymneillduol, ac yn eu gosod yn agored i erledigaethau creulawn. Gomeddai y gyfraith hon "i ragor na phump o bersonau uwchlaw un ar bymtheg oed (heblaw aelodau y tŷ lle y cyfarfyddant) i gyfarfod i addoli Duw yn deuluol, neu yn gymdeithasol." Os ceid yr un a fyddai y gweinidogaethu ar y pryd yn euog o droseddu y gyfraith, dedfrydid ef am y trosedd cyntaf i dri mis ́o garchariad, neu i dalu dirwy o £5. Am yr ail drosedd, i chwe' mis o garchariad. neu ddirwy o £10. Am y trydydd trosedd, dedfrydid y cyfryw un i alltudiaeth am ei oes, neu i dalu dirwy o £100. Hefyd, yr oedd y personau a oddefent i "gyfarfodydd anghyfreithlon" fel eu gelwid, gael eu cynal yn eu tai, neu yn eu hysguboriau yn agored i ddirwyon trymion, ac os delid merched priod yn y cyfarfodydd hyn, dedfrydid hwy i dri mis o garchariad oddi eithr i'w gwyr dalu £2 o iawn drostynt. Yr oedd yr awdurdod i roddi y gyfraith hon mewn grym yn erbyn yr Ymneillduwyr, yn gorphwys gyda'r heddynad, yr hwn oedd yn meddu awdurdod i gosbi y cyhuddedig oddi ar dystiolaeth noeth y cyhuddwr yn unig Mynych yr ymddangosai gelynion Ymneillduaeth o flaen yr heddynadau, a thystiolaethau gau yn erbyn y diniwaid. "Barn hefyd a dröwyd yn ei hol, a chyfiawnder a safodd o hirbell, canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni allai ddyfod i mewn."
- ↑ Adolygydd CYF. 1, tu dalen 417.