Tudalen:Cwm Eithin.djvu/102

Gwirwyd y dudalen hon

ddeuai i Gymru yn gyfnewid amdanynt, a dilyn ddiflaniad y fasnach o Gymru. Meddai am un dref, "In 1873, Machynlleth had twelve flannel and fine yarn manufacturers, and four mill wool carders, but in 1913 had none."

Yn yr Archaeologia Cambrensis am 1915, cyhoeddodd y diweddar Canghellor J. Fisher, D.Litt., gynnwys llawysgrif sydd yn Llyfrgell Rydd Caerdydd (MS 50), a rydd gryn dipyn o oleuni ar hanes cardio, nyddu, a gweu yng Nghymru. Gelwir yr ysgrif Wales in the time of Elizabeth. Dywaid y Canghellor nad yw'n ymddangos i'r llawysgrif gael ei chyhoeddi o'r blaen, nac i unrhyw ddefnydd gael ei wneud ohono. Ymddengys mai ysgrifau heb fod yn unffurf o ran maint a llawysgrifen ydynt, wedi eu hysgrifennu ran yn Gymraeg, a rhan yn Saesneg, ac ychydig mewn Lladin. Nid oes dim i ddangos pwy oedd yr awdur na'i gopïwr. Credir iddynt gael eu cyfansoddi yn amser teyrnasiad Elizabeth, gan Gymro twymgalon a gymerai ddiddordeb mawr yn natblygiad diwydiant ymysg y werin. Cwyna yn erbyn "The Act of the Union 1535," ac y mae yn trafod nifer o gwestiynau ar dirddaliadaeth, etc.

Yna a ymlaen i sylwi ar anwybodaeth, tlodi, prinder gwaith, a diffyg cynhaliaeth y werin, ac fel yr oedd hynny'n achosi mân ladradau ac anesmwythyd yn eu mysg. Y feddyginiaeth y dadleua drosti yw addysg rydd a rhad, ac i'r Frenhines a'i Llywodraeth roddi swm o arian yn nwylo rhywrai cyfrifol i brynu gwlân, fel y gallai'r tlodion ei gardio a'i weu yn eu tai ac ennill bywoliaeth; ac y talai hynny lawer gwaith drosodd i'w Mawrhydi trwy ychwanegu at adnoddau'r wlad i dalu trethi, a thrwy ehangu gwybodaeth y trigolion a'u gwneud yn ddeiliaid ffyddlon i'r Goron.

Pan ddadlau dros addysg rydd, dywaid:

"ffor within the greate Circute and p'cinct of Wales J knowe neyther colledge nor ffree schoole neyther any Bisshop or Prelate, wch with his authority or ffatherly love offereth one Prebend to a foundatyon, no nor the ffee fferme of any one Prebend: And that wch ys muche less, doo once moove yt by his godly perswasyon of the people. Wherof they mighte fynde a Nomber very conformable to charge theyre Landes for that purpose: Yet can the Bisshopps and Prelacy of Wales winck and holde themselves contented, that the Queenes Highnes ys defrauded in her first ffrutes and Tenthes, in that theyre