Tudalen:Cwm Eithin.djvu/104

Gwirwyd y dudalen hon

considerable impetus in Wales from some cause or other, as shown by the preamble. The Act was passed in 1623—4 (21 James 1, c. 9), and is intituled "An Act for the Free Trade of Welsh Cloths." The preamble reads :—

"Whereas the Trade of Making Welsh Cloths Cottons Frizes Linings and Plains[1] within the Principality and Dominion of Wales is and hath been of long Continuance, in the using and exercising whereof many Thousands of the poorer Sort of the Inhabitants there in precedent Ages have been set on work in Spinning Carding Weaving Frilling Cottoning and Shering whereby they (having free Liberty to sell them to whom and where they would), not only relieved and maintained themselves and their Families in good Sort, but also grew to such Wealth and Means of Living as they were thereby enabled to pay and Discharge all Duties Mizes Charges Subsidies and Taxations which were upon them imposed or rated in their several Counties Parishes and Places therein they dwelled for the Relief of the Poor and for the service of the King and the Commonwealth."

Yn yr hen amser nid oedd un math o beiriant i drin gwlân, i'w nyddu, na'i weu yn frethyn. Gwneid y cwbl â llaw. Y merched a'i triniai, yn gyntaf ei bigo, sef gwahanu'r gwlân garw oddi wrth y gwlân gorau, neu'r gwlân main, yna ei gribo, neu ei gardio i'w wneud yn rholiau oddeutu deunaw modfedd of hyd a thua thrwch bys. Dau ddarn o bren oedd y cardiau, a dannedd mân mân ar un ochr iddynt. Rhoddid y gwlân rhyngddynt a thynnid y naill grib ar draws y llall. Ar ôl hynny gwneid ef yn rholiau trwy roddi ychydig o wlân rhwng cefnau y ddau grib a'i rolio ôl a blaen. Wele ddarlun o'r fainc gardio ar y tudalen nesaf.

Ond erbyn fy amser i yr oedd y ffatrïoedd yn gweithio'r gwlân ymhob ardal, a throid hwynt gan olwyn ddŵr yn ddieithriad. Ni wn pa mor hen yw'r olwyn ddŵr yng Nghymru. Diau iddi gael ei defnyddio i falu blawd ymhell cyn ei defnyddio i drin gwlân. Pwy a all ddywedyd pa bryd yr adeiladwyd y ffatri wlân gyntaf yng Nghymru, ac ymha le? Diau iddi daflu llawer iawn allan o waith, oherwydd yr oedd cannoedd lawer, os nad miloedd, yn ennill eu bywoliaeth wrth gardio. Yr oedd masnach helaeth yn cael ei gwneud yn Lloegr a chyflog da am y

  1. A kind of flannel (Halliwell).