Tudalen:Cwm Eithin.djvu/106

Gwirwyd y dudalen hon

ffatrioedd yn fy nghof cyntaf i, sef y "Jinny." Gellid rhoddi pymtheg neu ugain gwerthyd ar honno i nyddu, ychydig yn llai i gordeddu. Ond y ffermwyr mwyaf yn unig oedd yn gallu talu am nyddu eu gwlân yn y ffatri. Parhaodd y tlodion i nyddu yn eu tai. Yr oedd aml droell fach yn chwyrnellu yng Nghwm Eithin pan fu'n rhaid i mi droi fy nghefn arno i ennill fy nhamaid. Ond rhai blynyddoedd cyn hynny yr oedd troell newydd arall wedi dyfod i'r wlad a elwir y Mule, a gellid rhoddi nifer mawr o werthydoedd ar honno—dri neu bedwar cant. Ac nid yn hir y bu'r droell fach cyn cael ei disodli, darfu nyddu yn y tai, a safodd y droell fach, a fu yn suo aml un o'm cyfoed i gysgu a'i chwyrnelliad mwyn.

Mae'n debyg mai'r adeg honno y daeth yr injan gardio a wnâi ryw ddwsin neu ddau o roliau ar unwaith, a rhai o'r hyd a fynnid, ugeiniau neu gannoedd o lathenni o hyd. Felly y gwneid i ffwrdd â'r gwaith o bisio rholiau. Am yr hen injan, yr oedd yn rhaid rhoi'r gwlân drwyddi ddwywaith, y tro cyntaf i'w gribo a'r eiltro i'w gardio; ond pan ddaeth y newydd nid oedd eisiau ond rhoi'r gwlân i mewn yn yr hen injan i'w gribo a cherrid ef ar strap i'r newydd i'w gardio, a deuai allan yn rholiau mawrion wrth y dwsin neu ddau o unrhyw hyd, a'r rholiau yn barod i'w rhoi ar y droell.

Y gwaith nesaf ar ôl cardio'r gwlân a'i wneud yn rholiau oedd nyddu. Gwaith cywrain iawn oedd nyddu; yr oedd yn rhaid i'r llygad fod yn gyflym a chraff i weled pan fyddai digon o dro, ac i nyddu'n wastad rhag i rannau fod yn fain a rhannau eraill yn braff, fel y gwelsoch ambell greadur dilun yn ceisio gwneud rhaff wellt neu wair, ac yn rhoi y bai ar y trowr. Nid oeddynt yn rhoddi graddau i ferched yng Nghymru'r adeg honno, onide, diau y buasai llawer un wedi cael un am nyddu a gweu. Yr oedd yn llawer anos i'w ddysgu na llawer o bethau y rhoddir gradd amdanynt yn awr.

Yr oedd dwy droell, sef y droell fach a yrrid y rhan amlaf â'r troed; a'r droell fawr fel yr oedd gan fy nain. Bûm yn ei gwylio yn nyddu ugeiniau o weithiau. Gwneid hon fel hyn. Yn gyntaf, yr oedd mainc fechan o tua dwy droedfedd o uchter a thair troed iddi; ar ei chanol yr oedd post tua dwy droedfedd o uchter, ac ecstro bychan yn ei dop. Yr oedd olwyn neu gant y droell wedi ei wneud yn hollol ar lun olwyn cerbyd, ond ei fod yn ysgafn iawn. Lled y cant neu y cylch oedd tua chwe modfedd a'i drwch tuag wythfed ran o fodfedd; yr oedd post