arall a fforch yn ei dop ar un pen i'r fainc a thwll drwyddo. Gosodid y chwarfan yn y fforch, a gwthid y werthyd trwy'r twll yn y fforch a thrwy y chwarfan. Yna gwneid strap neu felt o edau wlân, wedi ei gordeddu i fyned o amgylch y cylch a'r chwarfan. Troid y cant â'r llaw trwy roddi bys rhwng yr edyn. Gan fod y cylch tua thair troedfedd neu ragor ar ei draws, a'r chwarfan heb fod yn ddim ond tua modfedd a hanner, yr oedd y werthyd yn mynd yn gyflym iawn. Rhwymid pen un o'r rholiau wrth y werthyd, a dechreuid nyddu trwy roddi tro cyflym i'r cant ag un llaw, a dal y rholyn yn y llaw arall. Yr oedd yn rhaid dal yr edau allan rhag iddi ddirwyn hyd nes y ceid digon o dro ynddi. Yna dyfod â'r llaw i mewn a gadael iddi ddirwyn am y werthyd, a phisio'r rholiau â'r llaw arall. Ni wn pa faint o wlân a allai gwraig fedrus ei gardio a'i nyddu mewn diwrnod. Yn ei lyfr, Gwilym Morgan; neu, gyfieithydd cyntaf yr Hen Destament i'r Gymraeg, Bala (1890), dywaid "Elis o'r Nant" fel y canlyn am y wraig lle y lletyai'r Dr. Morgan pan oedd yn ieuanc:
"Yr oedd yr hen wraig a anneddai y bwthyn llwyd a thlodaidd hwn wedi gweled dyddiau gwell, ac wedi dyoddef llawer o gylch-gyfnewidiadau bywyd. Cychwynodd ei gyrfa mewn safle anrhydeddus. Yr oedd yn ferch i dirfeddianydd ar raddfa fechan,—ei unig blentyn. Cafodd ddygiad da i fyny. Dysgwyd hi i weu, gardio, nyddu y droell bach, a gallai nyddu gyda'r droell fawr dros bwys gwr o edafedd mewn diwrnod, yr hyn ni allai nemawr un. Gallai farchog hefyd ar un ochr i'r ceffyl. Dysgwyd hi yn lled fanwl mewn dyledswyddau. teuluaidd. Gallai borthi ieir, moch, lloi a gwartheg yn ddi-ail. Ystyrid hynny yn ddygiad da i fyny."
Ni wn pa sawl cant o lathenni o edafedd ungorn a allai fod mewn pwysgwr o wlân—mae'n rhaid ei fod yn llawer iawn. Gwelais mewn hen Wladgarwr y gellir nyddu edafedd ddigon main o bwys o gotwm i estyn o naw a thrigain i ddeg a thrigain milltir o hyd. Ni wn ychwaith paham y gelwid pwys o wlân yn bwysgwr mwy na phwys o rywbeth arall. O'r hyn lleiaf, pwysgwr y clywais ef yn cael ei swnio bob amser. Mwy priodol a fuasai ei alw yn bwysgwraig. Dywedodd un ffatriwr wrthyf mai "pwyscywir " oedd am fod deunaw owns ynddo. Yr oedd deunaw owns yn y pwys 'menyn yn fy nghof i, a mynnodd fy nain roddi deunaw owns yn ei phwys 'menyn i ddiwedd ei hoes,