Tudalen:Cwm Eithin.djvu/110

Gwirwyd y dudalen hon

Gyda llaw gwehydd oedd "Siôn Gynwyd," bardd pur enwog yn ei ddydd, a chychwynnydd yr achos Methodistaidd yn Edeirnion.

Nid wyf ychwaith yn cofio gwehydd yn gweithio yn yr un o'r ffermydd, ond yr oedd nifer o wehyddion yn gweithio yn eu tai eu hunain yr adeg honno. Yr oedd dau yn Llanaled, ac yn cadw gweithiwr neu ddau, a bûm yn eu gwylio wrthi lawer tro pan fyddwn yno yn yr ysgol. Nid oes ond ychydig flynyddoedd er pan fu mab i un ohonynt, oedd weinidog amlwg gyda'r Wesleaid, farw. Ond yr oedd gwehyddion yn y rhan fwyaf o'r ffatrioedd, ac nid hir y buont cyn disodli'r gwehyddion o'r tai.

Y gorchwyl nesaf i'w wneud â'r brethyn a'r wlanen oedd myned ag ef i'r pandy i'w bannu. Rhoddid ef yn y cyff, lle y pennid ef â'r gyrdd mawr. Os byddai wedi ei bannu'n iawn, byddai wedi myned i mewn tuag un rhan o bedair, hynny yw, brethyn dwylath o led yn myned i'r cyff yn dyfod allan tua llathen a hanner o led. Defnyddid priddgolch (Fuller's earth) a chyffeiriau eraill i wneud y gwaith ac i dynnu'r olew allan.

Troid olwyn y felin ban gan ddŵr fel yn y ffatri. Ar ôl bod yn y cyff am nifer o oriau tynnid y brethyn neu y wlanen allan a chymerid hi a'i rhoddi ar y dentur i sychu. Byddai honno mewn cae o'r tu ôl i'r pandy. Gwneid hi o nifer o bolion wedi eu gosod ar eu pennau, a bachau o haearn oddeutu hanner modfedd ynddynt, i ddal y wlanen yn dynn; ac wedi iddi sychu, gwneid hi yn gorn, sef yn rholyn.

Perthynai i'r pandy wasg (press) i wasgu'r brethyn a'r stwff, neu bresio, fel y byddent yn dywedyd, sef dwy sheet o haearn oddeutu pedair troedfedd wrth ddwy a hanner, a rhoddent y brethyn neu'r stwff rhwng y ddwy, ac yna dodi pwysau ar yr uchaf i'w gwasgu i lawr, ac yna cynnau tân â gluad, neu goleuad, sef tail gwartheg wedi sychu, i'w thwymo.

Diau y clywsoch sôn am bais stwff. Byddai honno, fel rheol, wedi ei gweu yn rhesog o ddau neu dri lliw, ac yn hardd iawn, ac yn hen ddigon da i eneth o forwyn, a hyd yn oed i ferch ffarm, fynd i'r capel. Gyda phais wlanen a phais stwff amdani, yr oedd yn llawer cynhesach na chyda'r lliprynnod a wisgir yn awr.

Tua dechrau'r ganrif ddiweddaf daeth y gown cotwm i Gymru, ac yr oeddynt yn grand ofnadwy. Yr oedd gennyf hen ewythr yn byw mewn ffarm weddol helaeth, ac yr oedd ganddo ferch, a meddyliai f'ewythr dipyn ohono'i hun ac o'i ferch. Tuag 1840,