syrthiodd y ferch mewn cariad â'r gwas. Galwodd ei thad hi ar y carped, ac meddai: "Prynu het silc a gown stamp i ti, a charu gwas, ai e?"
Credaf fod y pandy yn hyn o lawer na'r ffatri wlân. Mae aml le yn y wlad yn cael ei alw yn Bandy. Ond, ymhell yn ôl y mae'n sicr y trinid y brethyn, trwy fyned ag ef i lan afon, neu nant, i'w sgwrio. Ymddengys na fu pandai Cymru erioed yn enwog am droi gwaith da allan. Ni allent roddi'r gorffeniad graenus a sidanaidd a roddid gan eu cydymgeiswyr yn Lloegr. Nid yw hynny i ryfeddu ato, oherwydd glynent wrth hen beiriannau wedi gweled eu dyddiau gorau yn amser eu teidiau. Ac mewn llawer man ffarmwr neu saer yn rhoi rhan o'i amser a fyddai'r pannwr. A diau, fel y dywedwyd wrthyf, y bu hynny yn un achos i Gymru golli'r gwaith o drin ei gwlân ei hun.
"Rhaid cael lliw cyn llifo" oedd hen ddihareb gyfleus dros ben weithiau. Pan ddeuai newydd drwg am rywun mewn ardal—stori heb lawer o raen arni, a'r bobl orau yn gwrthod ei chredu, ac yn dywedyd, " 'Choelia-i mohoni hi," gallai yr hoff o newydd drwg am ei gymydog bob amser gario'r maen i'r wal ar y bobl orau trwy ddywedyd, "Rhaid cael lliw cyn llifo." Byddai'n rhaid i'r dynion a'r bechgyn wisgo 'sanau llwydion, na wnaent ddangos y baw, druain. Tipyn o wlân du'r ddafad wedi ei gymysgu â gwlân gwyn, edafedd wedi ei lifo yn "las y pot," fel y gelwid ef. Dyma'r lliw rhataf posibl a'r mwyaf plaen a diaddurn wrth gwrs i'r bechgyn. Ond chware teg i'r merched, hwy fyddai'n llifo, ac yr oedd cael llifo 'dafedd yn wahanol i wneud eu 'sanau eu hunain yn gryn gymhelliad iddynt i wneud y gwaith. Nid oes gennyf lawer o grap ar liw na llifo. Er y bûm yn gwylio fy nain a'm mam yn llifo lawer tro, o'r braidd y gallwn wneud y gwaith yn awr. Nid wyf yn cofio enw llawer o'r cyffuriau. Cofiaf yn dda y bûm lawer tro yn nol pwys o flacwd o Siop Lias, ac Ymhen y Top yn hel cen cerrig. Gwneid sanau smart dros ben trwy roddi hanner y cengel yn y lliw, a chadw'r hanner arall yn wyn. Byddent yn debyg i geffyl broc. Gwneid 'sanau rhesog hefyd trwy ddefnyddio edau o ddau liw bob yn ail cylch. Yn fy amser i llifid deunydd brethyn yn y ffatri fel rheol, ond cadwodd fy hen ewythr William Ellis i'r diwedd at wlân y ddafad ddu wedi ei gymysgu â gwlân gwyn. A phan âi i roi tro am y defaid, yr hyn a wnâi unwaith bob dydd ac amlach na hynny ar y Sul, gwyddai'n iawn gwlân