pa rai o'r defaid a fyddai am ei gefn. Ac nid peth bach oedd hynny, gallu gwylio bywyd a symudiadau'r ddafad a fu'n foddion iddo gael dillad clyd o frethyn cartre i'w wisgo.
Bûm yn hel cen cerrig lawer tro, ond nid i'w werthu. Mae'n rhaid fod rhyw nwydd wedi ei ddisodli cyn fy amser i. Amlwg y bu cen cerrig yn nwydd gwerthadwy. Y mae atgofion "Ap Vychan"[1] yn ddiddorol dros ben wrth gyfeirio at hel cen cerrig.
Yn nechrau haf y flwyddyn 1818, yr oedd gwr a gwraig, a thyaid o blant nwyfus a chwareus, yn byw dan gysgod craig fawr ac ysgythrog, ac mewn ty bychan, a'i do o redyn y mynydd-dir oedd gerllaw iddo, ac nid oedd yr haul yn tywynnu arno am rai wythnosau yn nyfnder y gauaf. Yr oedd yn cael ei gysgodi yn dda rhag gwyntoedd o'r Gorllewin, ac o'r Deheu; ond yr oedd awelon oerion y Gogledd a'r Dwyrain yn ymosod arno yn ddidrugaredd. Mynnai y mŵg hefyd ymgartrefu yn y tŷ a'r to rhedyn, gyda y teulu, ac nid ai allan o'i fodd, os na fyddai y gwynt yn chwythu o ryw bwynt a ryngai ei fodd ef. Yr oedd megis un o'r teulu.
Ond yr oedd amryw o bethau manteisiol a dymunol yn y fangre wladaidd honno wedi y cwbl. Yr oedd y teulu, wedi iddynt ddyfod drwy un bangfa galed o waeledd, yn cael iechyd pur dda ar y cyfan. Yr ydoedd ffynon o ddwfr iachus yn tarddu o ganol y mynydd mawr, yn union wrth dalcen y tŷ. Ceid digon o danwydd o fawnog oedd yn y mynydd uwchlaw y tŷ, yr hyn a barai fod yr aelwyd ar nosweithiau hirion y dyddiau byrion, yn hynod o gysurus. Eisteddai y tad yn un gornel, a'r fam ar ei gyfer yn y gornel arall, a'r plant yn hanner cylch o flaen y tân, a phob un oedd yn ddigon o faint yn gwau hosan mor gyflym ag y gallai, fel y gallai y fam fyned a hanner dwsin o barau i'r farchnad ar y Sadwrn, a'u cyfnewid yno am angenrheidiau teuluaidd.
Nid oedd yn hawdd peidio a chysgu yng ngwres y tân. Teimlai y plant hynny yn fynych, ac anfonai y fam hwynt allan am dro i edrych beth a welent rhwng y ty a Moel Llyfnant; yna dychwelent i'r ty yn ol i drin y gweill, fel o'r blaen, hyd amser swper, a'r addoliad teuluaidd a'i dilynai, ac yna pawb