Tudalen:Cwm Eithin.djvu/113

Gwirwyd y dudalen hon

i orffwys ac mor felus oedd cwsg yn y dyddiau hynny. Ac mor hoenus a diflinder oedd y cyfansoddiad pan ddeffroid yn y bore wedi cysgu drwy y nos.

*****

"Ar ol terfynu o'r rhyfel mawr rhwng y wlad hon a Napoleon Bonaparte, daeth amser caled iawn ar weithwyr amaethyddol, crefftwyr, a mân amaethwyr Cymru. Yr ydym yn cofio blwyddyn o falldod cyffredinol ar yr yd, ac yr oedd bara iach yn beth dieithr yn y wlad. Bychan iawn oedd cyflog gwr y ty a'r to rhedyn; ac er pob ymdrech o eiddo y fam a'r plant er ychwanegu tipyn at gyflog gwr y ty hwnnw, byd cyfyng a chaled oedd arnynt fel teulu dros amryw flynyddau.

"Ond... agorodd Rhagluniaeth dirion y nef iddynt ddrws o ymwared, i ryw raddau. Daeth y cen gwyn sydd yn tyfu ar gerrig yn nwydd i fasnachu ynddo. Cesglid ef oddiar y cerrig, a gwerthid ef i fasnachwr am geiniog y pwys, ceiniog a ffyrling, ceiniog a dimai, ac ychwaneg na hynny, pan y byddai galwad uchel am dano. Yr oedd tri o blant y teulu sydd dan ein sylw yn ei gasglu bob dydd, sych a theg. Casglai y tri rhyngddynt oddeutu deunaw pwys, yr hyn oedd yn gryn gymorth i'r rhieni a'r plant allu byw, a thalu eu ffordd. Troes lluoedd allan i'r ffriddoedd a'r mynyddoedd i'w gasglu, ac yr oedd y casglwyr gyda eu cynion yn hel y cen yn llawer cynt nag y tyfai ar y cerrig; ac felly, aeth y nwydd yn brin yn yr holl leoedd oeddynt yn gyfleus i gyrchu iddynt; a rhaid oedd myned yn bellach, bellach, yn barhaus."

Yr oedd y ffatrïwr, yn enwedig os byddai yn cadw dau neu dri o weithwyr, yn dipyn o lanc mewn ardal, agos gymaint ag yw siopwr neu ysgolfeistr yn ein dyddiau ni. Ond y mae yr hen ffatrioedd, a fu'n foddion cynhaliaeth i lawer teulu, yn sefyll bron bob un, a gwellt glas mawr wedi tyfu dros yr olwyn ddŵr, y cafn wedi braenu, a'r hen ffatri â'i phen ynddi; y gwlân yn cael ei werthu yn aml yn ddigon isel i fyned i ffwrdd o'r wlad, a'r trigolion yn gorfod talu'n ddrud amdano yn ôl mewn brethyn a gwlanenni a gwrthbannau, er colled ddirfawr i Gymru.

Beth a fu'r achos i Gymru golli'r diwydiant hwn i'r fath raddau ag y gwnaeth? Credaf mai oherwydd dau ddiffyg, diffyg anturiaeth a diffyg cyfalaf. Soniais am beiriannau newydd yn