Tudalen:Cwm Eithin.djvu/114

Gwirwyd y dudalen hon

dyfod i'r ffatrïoedd, ond dywedwyd wrthyf pan geid peiriant newydd mai un wedi ei droi heibio gan y Saeson ydoedd bron yn ddieithriad, am y gellid ei brynu am ychydig. Felly, ni ellid cystadlu â'r Saeson oedd â digon o fentar a digon o arian i fanteisio ar bob dyfais newydd. Yr hen stori, glynu'n rhy hir wrth yr hen bethau, hen gartref, hen beiriant, hen ddull. Gwelais aml un yn fy nydd yn mynd i'r wal am yr un rheswm—glynu wrth yr hen beiriannau.