Tudalen:Cwm Eithin.djvu/115

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD IX

HEN DDIWYDIANNAU
II

YR oedd nifer o deilwriaid yn chwipio'r gath yn fy nghof i, ond y mae "Hiraethog" wedi anfarwoli'r teiliwr fel nad oes angen sôn amdano ef. Yr oedd yno ychydig o sadleriaid yn myned o gylch y ffermydd i drwsio gêr y ceffylau. Mae'r gwaith hwnnw i gyd yn cael ei anfon i'r siop yn y dref yn awr. Dywedir yr arferai'r cryddion chwipio'r gath yn yr hen amser, ond yr oedd yr arferiad wedi peidio ers talm. Ond yr oedd "mynd" ar waith y crydd. Cofiaf chwech yn gweithio yn yr un man yn un o bentrefi Cwm Eithin, a dyna gyrchfan llawer gyda'r nos. Dyna'r lle mwyaf difyr y bûm ynddo erioed oedd Tŷ Morus y crydd pan oedd Huw ei frawd, William ei nai, ac Evan y mab, James Watson a John Edwards yno. Y diweddaf oedd y prif wàg. Pan roech fesur eich traed addawai Morus y pâr i chwi ymhen y pythefnos; yna ymhen yr wythnos, ac felly am bump neu chwech o droeon. Ac nid siomiant i gyd fyddai cael eich siomi, oherwydd yr oedd yn esgus i gael myned i dŷ'r crydd i wrando straeon a hanes yr ardal drachefn, ac ni ddisgwyliech gael eich esgidiau hyd y pedwerydd neu y pumed tro. Ac os byddai'ch esgidiau yn gollwng dŵr byddai raid dangos eich traed gwlybion a dywedyd tipyn o'r drefn. Nid wyf yn sicr na fyddai ambell un yn cicio dwy neu dair o hoelion o flaenau'i esgidiau yn bur fuan ar ôl eu cael er mwyn esgus i fyned i dŷ'r crydd, ac ni fyddai raid talu am y rhai hynny os byddai'r esgidiau yn weddol newydd. Toc dechreuodd y "sgidiau pryn" ddyfod i'r ffeiriau, a gwerthid hwy ar y stondin; ac yr oeddynt yn costio ilai o'r hanner nag esgidiau Morus y crydd; ond edrych yn amheus a wnâi trigolion Cwm Eithin arnynt, a buan y deallwyd nado eddynt dda i ddim i'w gwisgo ar y tir. Prynai ambell un bâr at y Sul; esgidiau bob dydd a llawn o hoelion a'u hiro nos Sadwrn, a wisgem ni'r hogiau ar y Sul. Pâr o esgidiau pryn oedd y rhai cyntaf a gefais i ar y Sul. Prynais flacin, gan feddwl ymddangos yn bur daclus y Sul hwnnw, ond druan ohonof! Er rhwbio a brwsio, nid oedd dim sglein yn dyfod arnynt—yr oeddynt fel yspwng. Ond esgidiau pryn, neu esgidiau parod fel y'u gelwir hwy, sydd yn awr ym mhobman yn y Cwm; mae bron