yn amhosibl cael neb i wneuthur pâr o waith llaw. O bymtheg swllt i ddeunaw swllt oedd pris Morus y crydd am bar o water tights.
Cyrchfan poblogaidd iawn oedd gefail y gof, fel y pery byd heddiw. Yno y ceid llawer o hwyl ac ysmaldod. Yn yr hon amser yr oedd gefail y nelar yn lle pwysig. Cofial nifer o nelars yn gweithio yn Llanaled, yn gwneuthur hoelion o bob math. Gŵr tew, byr, o osodiad cadarn, oedd Robert Nelar. Yr oedd dau neu dri yn gweithio gydag ef. Gweithio ar dasg y byddai'r nelars. Ni wn pa faint a gaent am wneuthur hoelion dwbl, a hoelion sengel, a hoelion sgidiau. Bûm yn nôl pwys o rai sengel a phwys o rai dwbwl lawer tro o siop Lias. Methaf yn lân â chofio pa faint y pwys a dalwn amdanynt. Ychydig o amser i ddal pen y stori a fyddai gan y nelar, oherwydd main oedd y darn haearn a ddefnyddiai ac ni chymerai fawr o ameri dwymno-dim tebyg i'r amser a gymerai i'r gof dwymno dwy hen bedol i wneuthur un. Heblaw hynny defnyddiai'r nelar ddas ddarn o haearn bob yn ail yn y tân ac ar yr einion, a byddai wrthi fel lladd nadroedd yn curo'r hoelen i'w llun priod, ei thorri wedi gadael un pen yn dew a'i rhoddi mewn twll yn yr einion bach a churo pen arni fel y gwynt. Bu'r Parchedig John Jones, Caernarfon, yno yn gwneuthur hoelion sengel, cyn tyfu'n hoelen wyth ei hunan.
Ar amaethyddiaeth a defaid a merliws y mynydd y dibynnai mwyafrif trigolion Cwm Eithin; ond yr oedd yno lawer mwy o ddiwydiannau nag y sydd yn awr. Mae llu ohonynt med myned i golli, byth i ddychwelyd, y mae lle i ofni, a'r unig rai sydd wedi dyfod yn eu lle, hyd y gwelaf, ydyw ffrio ham ac wyau i'r ymwelwyr, a gwerthu petrol. Fe fuasai yn well gen i ganwaith fyned i'r mynydd â chaniaid o laeth enwyn a chilcyn torth a lwmp o fenyn mewn blwch pren, i dorri mawn neu lafrwyn, na thendio ar y visitors, pe buaswn i yng Nghwm Eithin. Onid yw yn amser i'n harweinwyr ddeffro i ddatblygu rhyw ddiwydiannau yng Nghymru? Mae llechau pridd yr Almaen yn disodli llechi Arfon a Meirion, ac olew Rwsia ym disodli glo Cymru. Beth a fydd i weithiwr i'w wneud ym mhen hanner can mlynedd eto? Ni fydd ein gwlad ddim ond parlwr i gyfoethogion Lloegr. A beth a ddaw o'r Iaith Gymraeg wedyn?
Yr oedd hen ddiwydiannau eraill sydd wedi myned i golli a bron yn angof, a diau fod llu o drigolion ieuainc Cwm Eithin na