Tudalen:Cwm Eithin.djvu/117

Gwirwyd y dudalen hon

chlywsant erioed sôn amdanynt, ac ni freuddwydiasant fod eu tadau mor fedrus gyda gwaith llaw. Wrth ddisgrifio'r diwydiannau hynny, caf gyfle i ddisgrifio ambell erfyn a fu mewn bri yn yr amser gynt, na welodd mwyafrif y to presennol erioed mo'i fath; neu os gwelsant ambell un yn llechu yn nhŷ'r gwŷdd neu gut yr arfau, mae'n debyg na wyddent ar y ddaear fawr i beth yr oeddynt da.

Yr oedd yno seiri coed a seiri cerrig; maent hwy yn aros eto, ac yn cael eu galw'n awr yn joiners, masons a stone-cutters. Yn adeg y trawsgyweiriad hwnnw y dechreuodd y crefftwyr wisgo coler wen i ddangos eu huchafiaeth ar y gwas ffarm. Nid wyf yn cofio'r slatar a'r plastrwr yn cael ei alw yn ddim arall, yr hyn a brawf mai newydd-ddyfodiad i Gwm Eithin oedd ef.

Gŵr pwysig hefyd oedd y llifiwr, yn enwedig yr un ar ben y pit. Mae'n syndod gymaint o ddiwydiannau oedd wedi eu crynhoi at ei gilydd mewn aml ardal sydd erbyn hyn wedi eu colli'n lân. Bûm yn holi fy niweddar frawd yng nghyfraith, Robert Roberts, Cynwyd, cofiadur pennaf yr ardaloedd (gŵr yr wyf yn ddyledus iddo am lawer iawn o hen hanesion sydd gennyf) am restr o ddiwydiannau coll cylch Cynwyd. Cefais y rhai a ganlyn ganddo yn awr ac eilwaith, ac ysgrifennais hwy mor agos ag y gallwn gofio fel yr adroddai ef hwy.

MAELIERWR

Yr oedd nifer o wŷr ar hyd y wlad yn yr hen amser yn gwerthu nwyddau. Nid wyf yn sicr a arferid yr enw' maelierwr am rai yn gwerthu unrhyw nwyddau, ynteu a gyfyngid ef i rai oedd yn gwerthu ŷd a blawd. Yr oedd gwr o'r enw David Williams, yn byw yn hen gartref fy mhriod, ac yn hynod iawn o'r un enw a'i thad, ond nid wyf yn meddwl fod unrhyw berthynas rhyngthynt, a elwid yn faelierwr[1]. Ei waith ef oedd prynu ŷd, ceirch fel rheol, i'w droi'n flawd a'i werthu. Arferai fyned i'r marchnadoedd i brynu a gwerthu. Beti oedd enw ei wraig. Byddai llawer iawn o'i hamser yn myned i drwsio sachau, ac arferai rincian llawer oherwydd bod y llygod yn tyllu'r sachau yn ddibaid. Yr adeg honno yr oedd raid cael licence i faelera. Yr oedd gan Dafydd Williams un; rhoddodd hi mewn jar ar y walbant i gadw. Cafodd y llygod afael ynddi a bwytasant hi er siomiant i

  1. Maelierwr, o'r gair maelera, cymharer maelfa.