Tudalen:Cwm Eithin.djvu/118

Gwirwyd y dudalen hon

Dafydd Williams; ond oherwydd ei fod yn ŵr llygadgraff, gwnaeth y defnydd gorau a fedrai o'i anlwc. Aeth at Beti a dywedodd, Weldi, dwyt ti ddim i rincian dim chwaneg am fod y llygod yn torri tyllau yn y sachau, mae ganddy'n nhw lisens i wneud yrwan." Arferai Dafydd Williams fyned i'r Bala bob dydd Sadwrn.

Mae'n debyg fod y Bala yn lle pur enwog am flawd a cheirch. Dywaid y pennill:

Mae yn y Bala flawd ar werth
Ym Mawddwy berth i lechu;
Mae yn Llyn Tegid ddŵr a gro,
A gefail go i bedoli;
Ac yng Nghastell Dinas Brân
Ddwy ffynnon lân i molchi."[1]


FFELTIWR—Gwneuthurwr hetiau

Mewn llawer ardal ceir bwthyn a elwir Tŷ'r Ffeltiwr. Yr oedd un felly o'r tu ucha i Gapel Salem ym mhlwyf Llangar. Ty'n y Wern oedd ei enw cyntefig, ond pan gymerwyd meddiant ohono gan y ffeltiwr cymerodd ei enw oddi wrtho ef. Gwelais hen furddyn yn aros.

Yr oedd Robert Roberts yn cofio dau frawd, Evan Williams, hen lanc, a'i frawd William Williams a'i briod, yn gwneuthur hetiau ffelt yn y tŷ uchod. Âi William a'i briod i'r ffeiriau a'r marchnadoedd yn y cylch i'w gwerthu. Gan y ffeltwyr uchod y cafodd yr het gyntaf a fu ganddo. Un gron, lwyd oedd, a pharhaodd am hir, ond cyfarfu â'i diwedd trwy i'r gwynt ei chwythu dros bont Cynwyd i'r afon.

LLINDY

Safai'r Llindy yn agos i'r lle mae'r Pandy yn awr. Yno y trinid y llin i'w wneuthur yn edafedd yn barod i'w nyddu, a'i weu yn gymysg â gwlân i wneuthur brethyn nerpan, a ddefnyddid i wneuthur dillad milwyr.

SAER GWELLT (Straw joiner)

Cofiai John Lloyd, Tŷ'n y Berth, a fu farw ddeugain mlynedd yn ôl yn bedwar ugain oed, felly wedi ei eni ddechrau'r ganrif,

  1. Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog, 1898.