Tudalen:Cwm Eithin.djvu/119

Gwirwyd y dudalen hon

ewythr iddo ef o'r enw William Stephenson, yn byw yn y Gwastad, tŷ a safai o'r tu uchaf i Hafod Bleddyn, yn masnachu fel saer gwellt. Gwnai goleri hesg (i geffylau wrth gwrs, nid i'r dynion na'r merched), cadeiriau gwellt, a chychod gwenyn.

TURNAL (Turner), neu saer gwyn

Gwaith y turnal oedd gwneuthur llestri llaeth, y trwnsiwr 'menyn, y scimer, noe, cawgiau, y gwpan glust, llwyau preniau, y printar—offeryn i farcio'r pwys menyn fel y gellid ei adnabod oddi wrth ei nod. A diau mai oddi wrtho ef y cafodd y brinten ei henw. Y saer gwyn diweddaf yn yr ardal oedd John Jones, yn byw ym mhen y Geulan, brawd i'r Dr. Arthur Jones, Bangor, gweinidog enwog gyda'r Annibynwyr.

CWPER

Gwneuthurwr tybiau 'menyn, y gunog odro, y cawsellt,etc., oedd y cwper. Un darn oedd llestri y saer gwyn, wedi eu turnio a'u cafnio â'i gyllell gam. Gwneid llestri'r cwper o nifer o ystyllod a chylch o bren neu haearn yn eu dal wrth ei gilydd. Y diweddaf yn yr ardal oedd un o'r enw Thomas Roberts, hen ŵr dipyn yn chwyrn. Adroddir hanesyn doniol amdano ef a'r Parch. Samuel Jones, Clawdd Newydd. Bu Samuel Jones yn byw unwaith yn Nhŷ'n Celyn, Cynwyd. Yr adeg honno yr oedd wedi pechu yn erbyn yr hen ŵr, ac ni thorrai Gymraeg ag ef. Un tro pan oedd Samuel Jones wedi dyfod o Glawdd Newydd i bregethu i Gynwyd, dywedodd wrth ei hen gyfaill William Williams, y Pandy, "'Da i ddim i'r ysgol y prynhawn yma. Tyd hefo fi i weled rhai o'r hen gyfeillion sydd yn wael." Yr adeg honno yr oedd Thomas Roberts yn wael iawn. Mynnodd Samuel Jones fyned i'w weled, er i William Williams wneuthur ei orau i'w berswadio i beidio, am y gwyddai nad oedd yn dda rhwng y ddau. Pan aethant i'r tŷ a chyfarch gwell i'r hen wraig, holi am yr hen ŵr, dywedodd Samuel Jones yr hoffai gael ei weld, ond gwrthwynebai'r hen wraig am yr ofnai'r canlyniad, ond fe wthiodd Samuel Jones heibio iddi i'r siamber, a dyma'r ymddiddan a fu rhyngddynt:-S.J., "Sut yr ydach chwi, Thomas bach?" "Gwael iawn," ebe'r hen ŵr. Wel, mae'n ddrwg iawn gini glywed; ydach chi yn fy nabod i, Thomas?" Nac ydw, yn nabod dim ohonoch chi." 'Wel, wel, drwg iawn, drwg iawn. Ydach chi yn nabod Iesu Grist, Thomas?" Ydw; mae O yn llawer haws i'w nabod na chi."