Tudalen:Cwm Eithin.djvu/12

Gwirwyd y dudalen hon

RHESTR O ENWAU LLEOEDD A PHOBL Y
CRYBWYLLIR AMDANYNT YN CWM EITHIN


Wrth ysgrifennu'r llyfr bwriadodd Hugh Evans iddo fod yn ddisgrifiad o ardal wledig nodweddiadol Gymreig. Oherwydd hynny, dychmygol hollol yw llawer o enwau'r lleoedd a'r personau a ddisgrifir yn y llyfr. Ni chytunai'r awdur â datgelu cyfrinach yr enwau hyn adeg yr ail— argraffiad yn 1933. Serch hynny, ymhen amser, fe gasglwyd ganddo restr o enwau, a chytunodd roddi rhestr gyflawn ynghyd â map o'r ardal mewn argraffiadau diweddarach. Hugh Evans ei hun a roes imi, ar dafod leferydd, y rhestr ganlynol. Dynoda'r enwau lleoedd yr ardal arbennig honno a gyfenwyd gan yr awdur yn Cwm Eithin. Gwelir nad yw llawer o enwau'r bobl ond enwau ffug hollol, tra'r lleill yn dangos ychydig newid, addasu ac ystumio ar yr enwau priodol.

Cynnwys Cwm Eithin rannau o Sir Ddinbych a Sir Feirionnydd. Ymestyn, mewn un rhan, o Bentrefoelas i'r Bala, gan gynnwys Cwm— Penanner, Cwmtirmynach a Chwm Main; yna mewn hanner cylch o'r Bala i Landderfel, Llandrillo, Cynwyd a Chorwen, gyda chyfeiriadau at Lyndyfrdwy a Llangollen; yna'n ôl trwy Fryneglwys, Gwyddelwern, Melin y Wig, Hafod Elwy a Cherrigydrudion i Bentrefoelas. Y prif ardaloedd o fewn Cwm Eithin, a chefndir y cyfan o'r gwaith, yw Llangwm (Llanfryniau), Cerrigydrudion (Llanaled), Llanfihangel Glyn Myfyr (Llanllonydd)) a Chwm Main (Cwm Annibynia a Chwm Dwydorth).

Nid rhyfedd i Hugh Evans ddewis ' Cwm Eithin' yn enw i'w lyfr,— nodwedd amlycaf yr holl ardal yw'r tyfiant aruthrol o eithin aur a welir ymhobman.

W.W.

  • Aer y Pyllau—Enw ar Y Clawdd Newydd, rhwng Cerrig-y-Drudion a Rhuthun, yw Y Pyllau.
  • Bardd y Drysau— R. H. Jones, Wallasey194
  • Betsan y Garwyd—Gwraig i Ellis y Garwyd, nai John Ellis y cerddor. Tyddyn bychan yn ardal Dinmael, oedd Y Garwyd.