TOI
Yr oedd yno hil o dowyr—hynny yw, dynion a fedrai doi tŷ to gwellt fel na ddeuai defnyn o ddefni trwyddo; nid ystyrid hwy yn grefftwyr, ac ni welais yr un ohonynt hwy erioed yn gwisgo coler wen, hyd yn oed ar y Sul. Er hynny, yr oedd toi tŷ â gwellt, i ddal dŵr, yn llawer mwy o gamp na thoi tŷ â llechau. Credaf y gallwn i dorri dau dwll mewn llechen a'i hoelio a gwneuthur to i ddal dŵr. Er y medrwn doi tas wair neu das ŷd â gwellt i ddal yn eitha, methais yn lân â rhwystro'r defni trwy do yr hen gartre er treio droeon. Bûm yn tynnu to i Thomas Jones y towr ac yn ei wylied yn fanwl. Gyda llaw, nid gwaith y medr pawb ei wneuthur yw tynnu to. Rhaid gafael yn nau ben y tusw o wellt a'i dynnu, ei osod yn ôl gyda'i gilydd, a'i dynnu dro ar ôl tro, ac yn y diwedd gafael yn un pen iddo a gwneuthur crib gyda bysedd y llaw arall a'u tynnu trwyddo, a gofalu na byddai'r un gwelltyn wedi ei blygu i gario y dŵr i'r to yn lle i'r gwelltyn nesaf; fel y gallai hwnnw ei gario drachefn tua'r bargod, yn lle ei gario i mewn i'r to.
Byddai raid i'r tynnwr to ofalu fod ganddo ddigon wrth ei gefn erbyn y clywai y gair "To!" yn dispedain ar ei glustiau. Nid llawer o amynedd i ddisgwyl a feddai'r towr, ac os deallai'r meistr fod y gwas yn ei gadw i sefyll ac yntau'n talu cyflog mawr efallai o naw swllt neu ddeg yr wythnos—nid esmwyth iawn fyddai ei le. Rhoddai y towr ei ysgol ar y to o fewn dwy i dair troedfedd yn ôl hyd ei fraich i'r talcen ar ei dde. Gelwid y darn hwnnw yn wanaf. Cymerai erfyn yn ei law a elwid topren, darn o bren, oddeutu deunaw modfedd o hyd, a mesen ar ei ben fel ar goes rhaw. Lledai yn ei ganol, yn denau a fflat yn debyg i rwyf, ond bod ei flaen yn culhâu. Gwneid bwlch yn ei flaen fel V, a thipyn o gamder yn ei ganol fel y rhedai yr un ffordd â'r to tra gallai'r towr ddal ei law ychydig uwchlaw. Cymerai y towr dopyn yn ei law dde. Wedi rhoi tro tebyg i gwlwm yn un pen iddo, â'i law chwith codai gynffon yr hen do yr ochr bellaf oddi wrtho; yna rhoddai flaen y topren ym mhen y topyn a gwthiai ef i mewn i'r to nes bod tua'r hanner o'r golwg oddi tan yr hen do. Yna un arall drachefn a thrachefn hyd nes cyrraedd yr ysgol yn ei ymyl. Yna symudai ychydig yn uwch i fyny, ac felly hyd nes y cyrhaeddai'r grib, pryd y byddai raid dyfod i lawr i symud yr ysgol, pan gâi y tynnwr ei wynt am funud.