Tudalen:Cwm Eithin.djvu/122

Gwirwyd y dudalen hon

y tyddynwyr i ddeall, ond ei droi, y ceid cnydau da o geirch. Gwelais geirch dros fy mhen ar rannau o'r mynydd, llawer gwell nag a geid ar y gwaelodion yn aml. Ond sut i'w droi oedd y gamp, oherwydd yr oedd ei groen cyn wytned â gwden helyg; nid oedd aradr yn y lle yn ddigon cref i'w droi, na llanc a allai ei dal, na cheffylau a allai ei thynnu. Er y dywedir mai ar bennau'r bryniau yr oedd ein cyndadau yn byw, ac y gwelir rhych a chefn mewn aml fan, ac er mai coedwigoedd oedd y gwaelodion, cafodd y mynyddoedd ddigon o amser i fagu croen pur dew cyn ein hamser ni. Gan hynny, rhaid oedd gwthio'r mynydd cyn ei droi. Yr oedd pen yr haearn gwthio yn fflat, rhywbeth yn debyg i ben yr haearn clwt, a min da arno. Rhaid oedd ei hogi yn aml. Ar ochr y llaw chwith iddo yr oedd yr ymyl yn troi i fyny, a min arni i dorri ochr y gwthin neu'r dywarchen yn rhydd, fel y tyr cwlltwr aradr ochr y gŵys. Yr oedd coes hir iddo o bump i chwe throedfedd o hyd, a chamder ynddi yn debyg i goes rhaw. Ar ei ben yr oedd mesen hir o ddeg i bymtheng modfedd. Byddai gan y gwthiwr ddarn o ledr ar ei glun, ac â'i glun a'i ddwylo y gwthiai yr haearn nes torri'r dywarchen. Ar ôl ei thorri o hyd neilltuol, wrth gydio ag un llaw ymhob pen i'r fesen, troai y gwthiwr y dywarchen y tu chwith i fyny i ochr y llaw dde, yn union fel y troir cŵys. Am ei lun gwêl Rhif 1, tudalen 106.

Ar ôl i'r gwthin sychu llosgid hwy. Âi y trowr â'r wedd a'r aradr yno ddechrau'r gaeaf, a byddai'n barod i hau ceirch ynddo yn y gwanwyn, a cheid cnwd da o geirch fel rheol y cynhaeaf dilynol, ac am ychydig flynyddoedd wedyn, tra y parhâi'r adnoddau yr oedd y mynydd wedi eu casglu yn ystod oesoedd o segurdod a dim ond defaid yn ei bori. Ond cyn hir iawn, fe gymerodd yn ei ben i gnydio llai lai, ond daliodd i roddi cnydau pur dda am ddigon o amser i'r tirfeddianwyr godi'r rhenti. Caniataodd y tirfeddianwyr i'r tyddynwyr drin y mynydd ar eu cost eu hunain, a chodasant y rhenti; a rhwng y cwbl llethwyd aml ffarmwr, ac yn y diwedd yr oedd y rhai a driniodd y mynydd yn waeth allan na'r rhai a'i gadawodd yn borfa defaid. Mae'n debyg yr âi tir bras America yn dlawd mewn amser heb wrtaith, oni bai fod digon ohono i beidio â gofyn iddo gnydio ond bob yn ail blwyddyn.

Ystyrid gwthio y gwaith caletaf yng Nghwm Eithin. Gwneid ef fel rheol ddechrau haf. Telid amdano wrth y rhwd, a