Tudalen:Cwm Eithin.djvu/124

Gwirwyd y dudalen hon

TORRI MAWN

Torrid y mawn ddechrau haf gan y dynion, a chodid hwy gan y plant a'r merched yn sypiau, â lle i'r gwynt fyned rhyngddynt i'w sychu, a cherrid hwy adref i'r tŷ mawn, neu eu gwneuthur yn deisi rhwng y ddau gynhaeaf, a hefyd ar ôl y cynhaeaf yd. Yr oedd yr haearn mawn yn erfyn pwrpasol at y gwaith, ac ni ddefnyddid ef i ddim arall. Torrid y mawn yn sgwâr fel brics, a thorrai'r haearn ddwy ochr ar unwaith. Dechreuid yn un pen, ac ar ôl torri'r fawnen gyntaf ar ddwywaith, eid ymlaen ar hyd y rhes gan daflu'r mawn i'r lan gyda'r haearn. Gweithid y pyllau yn stepiau fel y gweithir Chwarel y Penrhyn, a lle'r oedd digonedd o fawndir yr oedd rhai ohonynt yn bur ddwfn. Syrthiodd aml un iddynt, fel Dic Siôn Dafydd ac Aer y Pyllau. Mae stori Dic yn ddigon hysbys. Am Aer y Pyllau, un meddw oedd o. Un tro pan oedd yr hen Roberts y Botegir yn dyfod adref o Ruthyn yn y nos, clywai weiddi mawr o bwll mawnog rhwng y Clawdd Newydd a'r Botreyal am help i ddyfod allan. "Pwy sydd yna ?" ebe'r hen foneddwr. "Aer y Pyllau," ebe'r llais. "O, yr ydych chwi wedi cyrraedd adre felly!" ebe'r hen Roberts, "nos dawch." Gweler llun yr Haearn Torri Mawn, Rhif 3, tudalen 106.

Arferai rhai ddywedyd nad oedd gwaelod i'r gors yr enwir "Glan y Gors" oddi wrthi, ac a adweinir ar lafar gwlad fel Cors Pant Dedwydd. Pan oedd y Saeson yn gwneuthur ffordd o Lundain i Gaergybi trwy'r gors honno ofnent yn fawr rhag cael eu llyncu, a buont wrthi am amser maith yn cario coed a cherrig i geisio rhoi gwaelod i'r ffordd; ond llyncai'r hen gors y cyfan. Er iddynt lwyddo i gael ffordd teimlir hi yn siglo wrth fyned trosti, ac y mae y gwaliau a wnaed gyda'i hochrau bron a myned o'r golwg. Hwyrach y bu'r lle yn llyn un amser.

TORRI CLYTIAU A THALPIAU

Torrid llawer o glytiau mewn mannau lle nad oedd nemor o fawndir. Torrid hwy o'r croen ar fynydd tenau ei ddyfnder, a chan eu bod yn llawn o wreiddiau wedi marw, ac felly'n haen denau o fawn, llosgent yn dân gwresog. Torrid hwy, ar siâp teils a roddir ar y lloriau, gyda'r haearn clwt a ddisgrifiais wrth sôn am dywyrch trum. Yr oedd talpiau yn cael eu torri ychydig yn dewach. Hwy oedd y ddolen gydiol rhwng y clytiau a'r mawn.