Tudalen:Cwm Eithin.djvu/126

Gwirwyd y dudalen hon

ohonynt unrhyw dro pan fyddech yn cychwyn ar daith, "Gawn ni ddiwrnod braf heddiw, William ?" na fedrai broffwydo yn hollol gywir fel y canlyn: "Cawn, mi gawn ddiwrnod braf heddiw; ond feallai y taflith hi ychydig o gafodydd." Pa fodd y gallech argyhoeddi un felly, wrth ddychwelyd, ei fod wedi eich camarwain?

Cyn y gallai dyn ennill ei damaid wrth falu cerrig yr oedd yn gofyn llawer o ymarferiad a llygad craff iawn. Yn torri cerrig ar y ffordd yr wyf fi yn cofio'r hen Robert Roberts, Gwernau. Bûm lawer yn ei gwmni. Gwelech ef wrth eistedd ar dwr cerrig yn ei gwman wedi camu cymaint fel y gallasech feddwl, wrth edrych ar ei ochr, mai sgwâr fawr yn perthyn i un o'r seiri oedd. Er yn agos iawn i'r pedwar ugain a'i nerth wedi pallu, nid oedd un o'r dynion ieuainc cyhyrog a nerthol a allai dorri cymaint o gerrig ag ef. Yr oedd yn hen ffasiwn iawn. Byddai ganddo dair neu bedair o gerrig ar ffurf pen dafad fel rheol o'i gwmpas. Byddai gweddi yn pasio ar hyd y tyrpeg trwy gydol y dydd—amryw ohonynt o'r mân gymoedd o ganol y mynyddoedd. Gyda hwy byddai llanciau mawrion cryfion—cewri o ddynion, ac yn meddwl llawer o'u nerth; ac wrth weld gordd haearn fawr yr hen Robert, awyddent yn aml am roddi prawf o'u nerth, a stopient y wedd i ddangos i'r hen ŵr sut i dorri cerrig. Bûm yn eu gwylio lawer gwaith. Estynnai yntau un o'r cerrig pen defaid iddynt, a dyna lle byddai dyrnu a dyrnu gyda'r ordd fawr nes y byddai'r ffordd yn crynu dan eich traed. Ond cyn hir byddent wedi llwyr ddiffygio a cholli eu gwynt, ac yn dywedyd, "Rhaid i ni fynd," wedi methu â thorri'r garreg. Edrychai'r hen wr ym myw eu llygaid. Cymerai afael yn y garreg. Gosodai hi i eistedd ynghanol y twr, a chyda rhyw forthwyl bach tua phwys na chodai'n uwch na'i ben, tarawai hi yn ei thrwyn nes byddai yn hollti'n ddarnau, yr hyn a barai i un o feibion Anac edrych cyn wirioned â chut llo. Fel y canlyn y canodd Einion Ddu "i'r Dyn ar y Swp Ceryg:[1]

Cnoc, cnoc roddai'r dyn
Ar ryw gareg fawr ddi—lun;
Er y curo, methai'n lân
Gael o honi ddarnau mân:

  1. Caneuon y Bwthyn, gan Einion Ddu (John Davies), Dolgellau, 1878.