PENNOD X
HEN DDIWYDIANNAU
III
MEDI A MYND I'R CYNHAEAF
YR oedd gwaith gweision a gweithwyr ar y ffermydd yng yn hyn ydoedd ym rhan o Gymru; ond gan mai lle diweddar ydoedd, cyn gynted ag y byddai'r cynhaeaf gwair drosodd, arferai'r rhan fwyaf ohonynt fyned am fis neu bum wythnos i'r cynhaeaf ŷd—rhai i Sir Amwythig, eraill i Ddyffryn Clwyd. Byddai'r llanciau hynaf a gyflogai dros y flwyddyn yn cyflogi i gael mis o gynhaeaf; ychwanegai hynny ryw gymaint at gyflog y llanc a lleihâi gostau yr amaethwr. Medi y byddent yn yr hen amser—yn enwedig y gwenith. Yr oedd hynny lawer arafach na thorri gyda'r bladur, ond byddai'r ŷd lawer taclusach ac yn cael ei hel yn lanach, ac nid oedd yn dihidlo cymaint. Yr oedd y gwenith yn nwydd gwerthadwy iawn y pryd hynny.
A'r sicl y medid ar y cyntaf, ond bu llawer o fedi â'r cryman hefyd; yr oedd y ddau ar yr un ffurf, sef yn debyg i gryman tocio gwrych, ond bod y sicl yn llai bwaog a hwy. Yr oedd min da ar y cryman, ond dannedd mân, mân, oedd yn y sicl; hi oedd yr hynaf. Defnyddid y ddau bron yr un modd, ond mai taro yr ŷd a wneid â'r cryman a thynnu'r sicl drwyddo i'w lifio. Cymeryd gafael mewn swp o'r ŷd yn agos i'r pen â'r llaw chwith, a'i dorri â'r dde. Pan wyf fi yn cofio gyntaf yr oedd y bladur bron wedi disodli'r sicl a'r cryman medi. Ai'r dynion ieuainc i'r cynhaeaf gyda phladur a charreg hogi yn unig, ond parhaodd yr hen frodyr i fyned â sicl neu gryman medi gyda hwy am hir amser. Clywais yr hen dadau yn dywedyd yr awyddent hwy gymaint pan oeddynt yn ieuainc am gael myned i'r fedel ag yr awyddem ni am ladd gwair neu ŷd. Yn fy nghof cyntaf i fe dorrid yr ŷd i gyd i mewn. Wrth dorri neu ladd i mewn rhaid ei afra oddi ar ffordd y pladurwr nesaf gan fod yr ystod yn gorwedd yn ymyl yr ŷd heb ei dorri. Ond daeth lladd allan yn bur gyffredin os byddai yn gynhaeaf da Erbyn hyn mae'r peiriant torri wedi disodli'r bladur. Ni allaf sicrhau yr hyn a ganlyn, ond credaf ei fod yn agos i gywir: y