Tudalen:Cwm Eithin.djvu/129

Gwirwyd y dudalen hon

torrai un dyn, gyda phladur, gymaint â dau neu dri gyda'r cryman neu'r sicl; ac y tyr un dyn gyda'r peiriant gymaint, a mwy, nag a dorrai chwech gyda phladur. Felly fe welir y gwelliant sydd mewn offerynnau amaethyddol. Gyda'r peiriant gall un dyn dorri cymaint ag a dorrai ugain neu ragor wrth fedi.

Bûm yn holi rhai o'r hen frodorion am eu hanes yn myned i'r cynhaeaf, a hen hanesion eraill, lawer gwaith pan gawn ychydig seibiant yn y wlad. Clywais Dafydd Williams, Pant y Clai—a fuasai yn gant ag ugain mlwydd oed pe buasai'n fyw heddiw yn dywedyd y cofiai ef, pan oedd yn ddyn ieuanc, y cychwynnent o Edeirnion gyda'r nos a cherdded dros y Berwyn a chyrraedd i ardal Croesoswallt erbyn torri'r wawr, a gweithio yn y fedel hyd oddeutu deg o'r gloch y nos. Yn 1915 bûm yn holi William Edwards, Colomendy—oedd yn wyth a phedwar ugain mlwydd oed y pryd hwnnw. Dechreuodd fyned i Sir Amwythig i'r cynhaeaf pan oedd yn dair ar hugain mlwydd oed. Y cyflog yr adeg honno—sef 1850—oedd dau swllt a hanner coron y dydd, a gweithio o hanner awr wedi pump yn y bore hyd tua naw o'r gloch y nos. Byddai'r Cymry mewn cryn anhawster i ddeall y Saeson; ond byddai hen law bob amser yn y fintai, ac yn aml cymerid ffarm neu ddwy i'w medi am hyn a hyn yr acer, a thalu wrth y dydd i'r newyddian. Dywedai John Jones, a fagwyd yng Nghastell Dinbych— felly a wyddai'n dda am Ddyffryn Clwyd—mai'r swm a delid yno pan oedd ef yn ieuanc am fedi, rhwymo, a chodi'r yd oedd o ddeg i ddeuddeg swllt yr acer. Cymerai un neu ddau ffarm i'w medi, ac yr oeddynt i gyflogi a thalu i'r dynion cymwys a arferai weithio ar y ffarm. ent at y Groes am weddill eu gweithwyr, a thalu wrth y dydd. Dro arall byddai'r hyn a alwai ef yn Butty Gang yn cymeryd ffarm neu ddwy ac yn gwneud Butty Mess ohoni; sef oedd hynny rhannu'r enillion yn gyfartal. Buont ar ôl hynny yn cael un swllt ar bymtheg yr acer. Gallent ennill y pryd hynny, ond gweithio o olau i olau, tua dwy bunt a phum swllt yr wythnos. Felly yr oedd un dyn yn medi, rhwymo, a chodi oddeutu dwy acer a thri chwarter mewn wythnos.

SBAENO

Rai blynyddoedd yn ôl bûm yn holi Robert Jones, Tan y Ffordd, Cynwyd, a fagwyd yn Nyffryn Clwyd. Dywedai ef fod gwahaniaeth rhwng medi a'r hyn a elwid sbaeno. Wrth fedi